Llyn Ontario

Oddi ar Wicipedia
Llyn Ontario
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Llynnoedd Mawr, y ffin rhwng Canada ac UDA Edit this on Wikidata
SirOntario, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
GwladCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Arwynebedd18,529 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr74.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.7289°N 78.1064°W Edit this on Wikidata
Dalgylch690,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd311 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Ontario (Saesneg: Lake Ontario). Daw'r enw o'r iaith Huron ontarío, yn golygu "llyn mawr". Ef yw'r lleiaf o'r pum Llyn Mawr o ran arwynebedd, er ei fod yn fwy na Llyn Erie o ran y crynswth o ddŵr ynddo. Saif Llyn Ontario ar y ffîn rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gogledd a rhan o'r de mae'n ffinio ar dalaith Ontario, Canada, ac yn y de ar dalaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau. Mae ei arwynebedd yn 19,529 km2 a'i hyd yn 388 km.

Llifa Afon Niagara i'r llyn o Lyn Erie, ac mae Afon St Lawrence yn llifo allan o'r llyn. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Ynys Wolfe. Ymhlith y dinasoedd ar lan y llyn mae Toronto a Hamilton ar ochr Canada a Rochester ac Oswego, ar ochr yr Unol Daleithiau.

Lleoliad Llyn Ontario
Y llyn o Dead End, Huron, Efrog Newydd.