Iago ap Beli

Oddi ar Wicipedia
Iago ap Beli
Ganwyd560 Edit this on Wikidata
Bu farw613 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
TadBeli ap Rhun Edit this on Wikidata
PlantCadfan ap Iago Edit this on Wikidata

Roedd Iago ap Beli (560? - 615) (Lladin : Iacobus) yn frenin Gwynedd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am deyrnasiad Iago. Yn wleidyddol roedd yn gyfnod pan oedd y teyrnasoedd Seisnig megis Mersia a Brynaich, yn cynyddu mewn grym, yn enwedig Pybba brenin Mersia a'i fab Penda. Mae'n ymddangos fod Iago wedi dod i gytundeb a Pybba, na fydda Pybba yn ymosod ar Wynedd os byddai Gwynedd yn ei gynorthwyo, os byddai angen, yn erbyn Northumbria. Dywedir i Edwin o deyrnas Deifr gael lloches gyda Iago yn 604 ar ôl cael ei ddiorseddu gan Æthelfrith. Arweiniodd hyn at ymosodiad ar Gymru gan Æthelfrith a brwydr Caer (tua 615) lle lladdwyd Selyf ap Cynan brenin Teyrnas Powys a llawer o fynachod o fynachlog Bangor Is-y-Coed.

Nid oes cofnod fod byddin Gwynedd wedi cymryd rhan yn y frwydr yma. Cofnodir marw Iago ap Beli yn 613, a thybir weithiau ei fod ef wedi ei ladd yn y frwydr. Mae'r cofnod am farwolaeth Iago yn y cronicl (Harleian MS 3859) yn defnyddio'r gair dormitatio (syrthio i gysgu) am ei farwolaeth; nid y gair a ddefnyddid am farwolaeth mewn brwydr. Defnyddir dormitatio fel rheol am farwolaeth gwr eglwysig, felly gall fod yn awgrym fod Iago wedi ymneilltuo i fynachlog. Mae cofnod ei fod wedi rhoi rhodd i eglwys gadeiriol Bangor. Dilynwyd ef gan ei fab Cadfan ap Iago.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • J.E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co., 1911)
O'i flaen :
Beli ap Rhun
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Cadfan ap Iago