Deva (Hindŵaeth)

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd Deva (gwahaniaethu).

Enw Sansgrit sy'n golygu duw neu fod dwyfol yw Deva (Devanagari देव). Gallai olygu ysbryd, duw, bod dwyfol, angel neu fod goruwchnaturiol o natur ddaionus yn ôl y cyd-destun. Yn y Veda maent yn gwrthwynwbwyr i'r Asuras "drygionus".

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Credir fod y gair yn tarddu o'r gair Proto-Indo-Ewropeg tybiedig *deiwos, yn golugu "dwyfol" neu "ddisglair", o'r gwraidd *diw "disgleirio" (enw a gysylltir a'r awyr). Devi "duwies" yw'r ffurf fenywaidd. Gallai hefyd fod yn gysylltiedig a'r gair *diif "chwarae" (cf. Cymraeg 'difyrwch').

Y gair cytrad yn Avesteg yw daeva. Yn Zoroastriaeth, ma'r daevas yn greaduriaid drygionus a ffiaidd, ond nid ydynt yn cael eu portreadu felly yn y testunau hynaf.

Mae geiriau cytras eraill yn cynnwys Dievas mewn Lithwaneg, y Tiwaz Germanaidd, a'r gair Lladin deus "duw" a divus "dwyfol" (cf. Cymraeg, Duw a 'dwyfol').

Cytras hefyd yw *Dyeus Duw'r Awyr yr Indo-Ewropeaid, cf. Sansgrit Dyaus.

Devas traddodiad y Veda[golygu | golygu cod]

Duwiau:

Y prif dduwiesau sy'n deillio o'r dduwiesau Devi yw:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.