Gwaed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: pnb:لعو |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: rue:Кров |
||
Llinell 116: | Llinell 116: | ||
[[ro:Sânge]] |
[[ro:Sânge]] |
||
[[ru:Кровь]] |
[[ru:Кровь]] |
||
[[rue:Кров]] |
|||
[[sah:Хаан]] |
[[sah:Хаан]] |
||
[[scn:Sangu]] |
[[scn:Sangu]] |
Fersiwn yn ôl 15:09, 9 Ebrill 2011
Mae gwaed yn hylif coch sy'n cylchredeg yng ngwythiennau, rhydwelïau a chalon bodau dynol a fertebratau eraill. Mae'n cynnwys plasma, celloedd coch a chelloedd gwyn. Dyma'r prif system drafnidiaeth o fewn y corff, sy'n darparu ocsigen i holl organau a chelloedd y corff.
Swydd y celloedd coch yw cludo ocsigen o amgylch y corff i roi egni i'r cyhyrau. Celloedd coch yw'r unig rhai yn y corff sydd ddim yn cynnwys cnewyllyn. Swydd y celloedd gwyn yw ymladd heintiau a saldra sy'n ceisio ymosod ar y corff. Mae plasma yn gyfrifol am gludo carbon deuocsid.
Mae nifer o dermau meddygol yn dechrau gyda hemo- neu hemato- yn dod o'r gair hen Roeg am waed - αἷμα (haima).
Caiff gwaed ei bwmpio trwy'r corff gan y galon. Mae rhwng pedwar a hanner i bump litr o waed yng nghorff dyn cyffredin.
Lliw
Mae lliw gwaed dynol yn dibynnu ar faint o ocsigen sydd ynddo, oherwydd bod hyn yn effeithio ar gyflwr ocsideiddio yr atomau haearn yn yr hemoglobin – ac mae hyn yn dibynnu ar le'r gwaed yn y system gylchredol. Yn y rhydwelïau a'r capilarïau, mae lefelau'r osigen yn uchel ac mae'r gwaed yn goch llachar. Yn y gwythiennau, mae'r gwaed yn cynnwys llai o ocsigen, ac mae ei liw yn goch tywyll.