Manchester United F.C.: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: hy:Մանչեսթեր Յունայթեդ ՖԱ
Mjbmrbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 130: Llinell 130:
[[et:Manchester United FC]]
[[et:Manchester United FC]]
[[eu:Manchester United]]
[[eu:Manchester United]]
[[fa:منچستر یونایتد (باشگاه فوتبال)]]
[[fa:باشگاه فوتبال منچستر یونایتد]]
[[fi:Manchester United FC]]
[[fi:Manchester United FC]]
[[fr:Manchester United Football Club]]
[[fr:Manchester United Football Club]]

Fersiwn yn ôl 07:06, 28 Mawrth 2011

 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Manchester United F.C.
Enw llawn Manchester United Football Club
(Clwb Pêl-droed Manceinion Unedig)
Llysenw(au) The Red Devils
Sefydlwyd 1878 (fel Newton Heath LYR F.C.)
Maes Old Trafford
Cadeirydd Baner Unol Daleithiau America Joel ac Avram Glazer
Rheolwr Baner Yr Alban Syr Alex Ferguson
Cynghrair Uwchgynghrair Lloegr
2009-2010 2il

Tîm pêl-droed o Fanceinion yn Lloegr yw Manchester United Football Club (Clwb Pêl-droed Manceinion Unedig).

Mae nhw'n chwarae yn stadiwm Old Trafford yn y ddinas.

Mae nifer yn mynnu mai Manchester United yw'r clwb pêl-droed mwyaf poblogaidd yn y byd, gyda dros 330 miliwn o gefnogwyr ledled y byd - bron i 5% o'r boblogaeth fyd-eang. Roedd y clwb yn un o'r clybiau wnaeth sefydlu Uwchgynghrair Lloegr yn 1992, ac mae wedi chwarae yng nghyngrair uchaf Lloegr ers 1975. Mae cyfartaledd tyrfaoedd y clwb wedi bod yn uwch nag unrhyw glwb arall yn Lloegr bob blwyddyn heblaw am chwe thymor yn unig ers 1964/65.

Mae Manchester United wedi ennill Cwpan FA Lloegr 11 o weithiau, Uwchgynghrair Lloegr ddeg gwaith, Cwpan Cynghrair Lloegr dwywaith, Cwpan UEFA unwaith a Chwpan Ewrop dair gwaith.

Y clwb yw'r ail glwb mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed Lloegr a'r tim gorau yn y gorffennol agos; mae wedi ennill 20 o dlysau ers i Alex Ferguson gael ei benodi'n rheolwr yn Mis Tachwedd 1986. Mae nhw wedi ennill prif gynghrair Lloegr 18 o weithiau. Yn 1968 daethant y tim cyntaf o Loegr i ennill cwpan Ewrop, drwy guro S.L. Benfica 4-1. Enillon nhw ail gwpan Ewrop yn 1999 fel rhan or trebl, cyn ennill eu trydedd yn 2008, bron 40 mlynedd i'r diwrnod ers ennill eu cyntaf. Mae'r clwb hefyd yn dal y record am y nifer o gwpannau FA gyda 11.

Ers diwedd y 90au mae'r clwb wedi bod yn un or rhai mwyaf cyfoethog yn y Byd, gyda'r incwm mwyaf o unrhyw dim pêl-droed ac ar hyn o bryd y clwb mwyaf cyfoethog mewn pêl-droed ac hefyd mewn unrhyw gamp gyda gwerth o £897 miliwn yn Mai 2008. Roedd y clwb yn un o aelodau gwreiddiol G-14 sef grwp o dimau gorau Ewrop ac erbyn hyn yn ran o'r European Club Association.

Mae Syr Alex Ferguson wedi bod yn reolwr ers 6 o Dachwedd 1986. Capten presennol y clwb yw Gary Neville a olynodd Roy Keane yn 2005.

Hanes

Y blynyddoedd cynnar

Ffurfiwyd y clwb fel Newton Heath LYR F.C. yn 1878 fel clwb gwaith y Lancashire and Yorkshire Railway Depot yn Newton Heath. Roedd crysau y clwb yn hanneri lliw gwyrdd ac aur. Roedd y clwb yn chwarae ar gae bach gwael ar North Road am bymtheg mlynedd cyn symud i Bank Street yn nhref gyfagos Clayton yn 1893. Roedd y clwb wedi cael mynediad i'r gynghrair yn 1892 ac wedi dechrau gwahanu oddi wrth yr rheilffordd ac wedi dod ynglwb annibynol, penodi ysgrifennydd ir clwb a galw eu hunain yn Newton Heath F.C. Yn 1902 nid oedd y clwb yn bell o fod yn fethdalwyr gyda dyledion o dros £2,500. Ar un adeg cafodd eu stadiwm yn Bank Street ei gau.

Cyn cael eu cau am byth cafodd y clwb arian gan J.H Davies, perchennog bragdai Maenceinion.

Blynyddoedd Busby 1948-1969

Cymrodd Matt Busby drosodd fel rheolwr yn Hydref 1945. Oedd Busby eisiae rheoli dros pwy oedd yn y tim, pryny chwaraewyr newydd a sesiwnau ymarfer. Yn 1952 ennill y clwn yr uwchgyngrair, ei chwpan cyngrair cyntaf yn 41 mlynedd. Gyda oedran cyfartalog o 22, cyfenwodd y media y cefn-i-cefn pencampwyr yn 'the Busby Babes.' Ym 1957 roedd Manchester United yn y tim Saesneg cyntaf i cystadlu’r cwpan Ewropaidd. Er gwrthwynebiadau’r cyngrair Lloegr, aeth Manchester United ymlaen i cyrraedd y rownd gyn derfynol, lle collon nhw i Real Madrid. Recordiodd y tim ei ennilliad fwyaf yn yr wyth olaf yn erbyn Anderlecht, 10-0 oedd y scor.

Y tymor nesaf, ar y fordd gartref o ddod yn un o wyth tim olaf y cwpan Ewropaidd yn erbyn Seren Coch Belgrade, crashiodd yr awyren ar ol tri ‘Take off’ oedd yn carrior tim, yr offeiriaid a gohebyddion ar ol ail tanwyddio yn Munich yn yr Almaen. Roedd y truchuneb awyr Munich wedi ladd 23 o bobl ar yr 6ed o Chwefror 1958, yn cynnwys wyth chwaraewr- Geoff Bent, Roger Byrne, Eddie Colman, Duncan Edwards, Mark Jones, David Pegg, Tommy Taylor a Billy Whelan a wedi anafu rhai mwy.

Cymrodd Jimmy Murphy, arweinwr yr ailyddion drosodd fel yr areinwr llawn tra wneath Busby adenillwyd o'i anafau a'r tim ail hain yn cyrraedd rownd derfynol y cwpan FA, lle collon nhw i Bolton Wanderers. Yn cydnabyddiaeth o trajedi’r tim, gwahoddodd UEFA'r tim I cyryd rhan yn Cwpan Ewropaidd 1958-59 gyda pencampwyr Lloegr Wolverhampton Wanderers.

Ailadealadodd Busby'r tim trwy'r 60au, yn pryny chwaraewyr fel Denis Law a Paddy Crerand, uniodd yr rhain gyda'r cenhedlaeth nesaf o chwaraewyr ifanc yn cynnwys George Best i ennill y cwpan FA ym 1963. Yr tymor nesaf gorffenon nhw'n ail yn y cyngrair, ac enillwyd y gyngrair ei hyn yn 1965 a 1967. Ym 1968 daeth Manchester United yn y tim cyntaf i ennill y cwpan Ewropaidd, yn meiddi Benfica 4-1 yn yr rownd derfynol gyda tim oedd yn cynnwys tri chwaraewyr ewropaidd y flwyddyn, Bobby Charlton, Denis Law a George Best. Gorffenodd Matt Busby fel arweinydd yn 1969 a chafodd ei disoldi gan arweinydd yr ailyddion Wilf McGuiness.

Y newid: 1969-1992

Ar ol gorffen yn wythfed yn 1969-70 a dechrauad wael i 1970-1971, Cafodd Busby ei perswadio i dod nol fel arweinwr ac aeth McGuiness nol I arwein yr ailyddion. Yn Mehefin 1971 daeth Frank O’Farrel yn arweinwr, ond arosodd ond 18 mis cyn cael ei disodli gan Tommy Docherty yn Rhagfyr 1972. Roedd Dochert wedi arbed Manchester United o fynd i lawr y tymor yna, ond iddyn nhw mynd i’r ail gyngrair yn 1974; erbyn hyn roedd Best, Law a Charlton wedi gadeal y clwb. Aeth y clwb lan ar ei tro cyntaf a llwyddon nhw cyrraedd rownd derfynol y cwpan FA yn 1976, ond collon nhw I Southampton. Cyrraeddon nhw’r rownd derfynol eto yn 1977, yn maeddu Lerpwl 2-1. Cafodd Docherty ei sacio yn gynt ar ol hyn oherwydd cafodd ef berthynas eto gwraig y ffisiotherapydd.

Daeth Dave Sexton yn haf 1977 ac ond am pryny chwaraewyr mawr yn cynnwys Joe Jordan, Gary Bailey, Gordon McQueen a Ray Wilkins, ni lwyddodd y tim i chael unrhyw canlyniadau mawr; gorffenom nhw yn y dwy cyntaf yn 1979-80 a chollon nhw I’r Arfwyr yn y rownd derfynol y cwpan FA. Cafodd Sexton ei sacio yn 1981, ond am y faith ennillodd United y saith gem olaf lle yr oedd ef yn arwain. Cafodd ei disodli gan Ron Atkinson, phwy torrodd y record trosglwyddo i pryny Bryan Robson o Gorllewin Bromich Albion. O dan Atkinson, ennillodd Manchester United y cwpan FA dwywaith yn phedair mlynedd.

Cyrraeddodd Alex Ferguson ei cynorthwy-yth Archie Knox o Aberdeen ar diwrnod y cafodd Atkinson ei sacio. Yn tair tymor orffenodd ef yn 11fed, 2il a 11fed eto. Roedd Ferguson dan bwysau, gan ei fod yn agos i gael ei sacio roedd ennill yn erbyn Crystal Palace yn rownd derfynol y cwpan FA yn 1990 wedi acheb swydd Ferguson. Y tymor wedyn enillodd Manchester United ei Cwpan Enillwyr y Cwpan gyntaf a chwaraeodd yn Cwpan Fawr UEFA yn 1991, yn maeddu enillwyr y cwpan Ewropaidd, Seren Coch Belgrade. Enillodd y tim y Cwpan Cyngrair yn 1992 gyda tim oedd yn cynnwys Ryan Giggs, David Beckham, Paul Scholes, Nicky Butt a'r brodyr Neville. Yn 1993 enillodd y clwb ei cyngrair cyntaf ers 1967, ennillon nhw'r cyngrair eto yn 1994 gyda’r Cwpan FA i cwblhau dwbl cyntaf yn hanes y clwb.

Y Goron Driphlyg 1999

Roedd tymor 1998-99 yn y tymor fwyaf llwddianus yn hanes pêl-droed yn Lloegr, roeddyn nhw'r tim cyntaf i ennill yr Uwchgyngrair Lloegr, Y Cwpan FA a Cyngrair y Pencapwyr – ‘Y Choron Triflig’- yn yr un tymor. Yn colli 1-0 i Bayern Munich yn rownd derfynol Cyngrair y Pencampwyr UEFA, scoriodd Teddy Sheringham ac Ole Gunner Solskjaer goliau hwyr i ennill dros yr Almaenwyr yn beth yn galw un o'r ‘Comebacks’ gorau yn hanes pêl-droed. Hefyd enillodd y clwb y cwpan cyfandirol ar ol maeddu Palmeiras 1-0 yn Tokyo. Ar ol yr holl digwyddiadau hyn cafodd Ferguson ei farchog am ei cyfraniadau i phêl-droed.

Llwyddiant yn y unfed ganrif ar hugain

Yn 2000 cymerodd Manchester United rhan yng nghwpan clybiau'r byd ym Mrasil, ac enillodd y gyngrair eto yn 1999-2000 a 2000-2001. Gorffenodd y tim yn ail i'r Arfwyr yn 2001-02, cyn ennill y gyngrair yn ôl yn 2002. Enillon nhw eu degfed cwpan FA yn maeddu Millwall 3-0 yn y rownd derfynol yn Stadiwm y Milenwm yng Nghaerdydd. Yn 2005-2006 ni lwyddodd y tim i gyrraedd yr 16 olaf - am y tro cyntaf ers degawd, ond yna adenillwyd Cwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Wigan Athletic. Enillodd y clwb Uwchgyngrair Lloegr eto yn 2007 ac yn 2008, a chyflawnodd ddwbl gan faeddu Chelsea â'r cic gosb yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Chwaraeodd Ryan Giggs ei 759ed gem yn y gem hon, gan gipio'r record - y trydydd cyngrair yn olynol. Yr haf hwnnw cafodd Cristiano Ronaldo ei werthu i Real Madrid am £80 milliwn. Yn 2010 maeddodd Manchester United Aston Villa gan ennill Cwpan Cynghrair Lloegr.

Sgwad Presennol

Fel 21 Ionawr 2011
  • 1 Edwin van der Sar
  • 2 Gary Neville (capten)
  • 3 Patrice Evra
  • 4 Owen Hargreaves
  • 5 Rio Ferdinand
  • 6 Wes Brown
  • 7 Michael Owen
  • 8 Anderson
  • 9 Dimitar Berbatov
  • 10 Wayne Rooney
  • 11 Ryan Giggs (is-gapten)
  • 12 Chris Smalling
  • 13 Park Ji-Sung
  • 14 Javier Hernández
  • 15 Nemanja Vidić
  • 16 Michael Carrick
  • 17 Nani
  • 18 Paul Scholes
  • 20 Fábio
  • 21 Rafael
  • 22 John O'Shea
  • 23 Jonny Evans
  • 24 Darren Fletcher
  • 25 Antonio Valencia
  • 26 Gabriel Obertan
  • 28 Darron Gibson
  • 29 Tomasz Kuszczak
  • 33 Bébé
  • 34 Anders Lindegaard
  • 37 Robert Brady
  • 44 Joe Dudgeon
  • 45 Oliver Gill
  • 49 Ravel Morrison


Uwchgynghrair Barclays 2015 - 2016

Dinas Abertawe| Arsenal | Aston Villa | Bournemouth | Leicester City | Chelsea | Crystal Palace | Everton | Liverpool | Manchester City | Manchester United | Newcastle United | Norwich City | Southampton | Stoke City | Sunderland | Tottenham Hotspur | Watford | West Bromwich Albion | West Ham United |

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol