Rhif: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: szl:Nůmera |
Mjbmrbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn newid: bxr:Тоо |
||
Llinell 53: | Llinell 53: | ||
[[br:Niver]] |
[[br:Niver]] |
||
[[bs:Broj]] |
[[bs:Broj]] |
||
[[bxr: |
[[bxr:Тоо]] |
||
[[ca:Nombre]] |
[[ca:Nombre]] |
||
[[ckb:ژمارە]] |
[[ckb:ژمارە]] |
Fersiwn yn ôl 19:31, 24 Mawrth 2011
Symbol mathemategol o wrthrych neu wrthrychau ydy rhif, a ddefnyddir i gyfri a mesur. Fe'i defnyddir hefyd fel label e.e. rhifau ffôn neu i archebu nwyddau drwy rif cyfresol (Saesneg: serial number). Dros y blynyddoedd mae'r hyn rydym yn ei dderbyn o dan y teitl "rhif" hefyd yn cynnwys 0 (sef sero) a rhifau negatif. Y rhan o fathemateg lle astudir rhifedd gan fwyaf ydy algebra.
Amrywiol
Dau ddull o gyfri yn Gymraeg
Ceir dau ddull o gyfri yn Gymraeg. Mae'r hen ddull, sef y dull clasurol, i'w glywed ar adegau yn y capeli neu neithior briodas a mannau tebyg lle ceisir siarad iaith urddasol e.e. saith a phedwar ugain. Mae'r dull modern, mathemategol, fodd bynnag yn llawer haws a rhesymegol: wyth-deg-saith = 87 gan ei fod yn dilyn yr un drefn: miloedd, cannoedd, degau ac unedau, chwith i'r dde. Eto, defnyddir ambell enghraifft o'r hen ddull ledled Cymru ym mhob maes e.e. deunaw = 18 (yn ogystal ag un-deg-wyth) a chlywir "saith bunt ar hugain" hefyd. Bellach (2010) mae'r dull modern "Emyn cant-saith-deg-tri" wedi goddiweddu'r "Emyn cant a saith a phedwar ugain" traddodiadol ac ni ddysgir yr hen drefn o gyfrifo mewn ysgolion, eithr y dull modern gyda rhai termau o'r dull traddodiadol megis "deunaw" yn parhau.
Rhai geiriau am rifau
- Un, dau, tri - 1, 2, 3
- Un cant a dau-ddeg-tri - 123
- Dwsin: 12
- Ugain: 20
- Hanner cant: 50
- Kilo: 1,000
Mae'r idiom "Rhif y gwlith" yn golygu "llawer".
Hud a ledrith
Arferai'r Celtiaid gredu fod i'r rhif 3 hud a lledrith iddo ac y deuai a lwc dda i'r person.
"Un frân ddu ddaw ag anlwc eto!" meddai'r hen gân werin.
Caneuon
Ceir llawer o ganeuon "cyfri" yn y Gymraeg e.e. "Cyfri'r Geifr".