Illia Kiriak: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B dol |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{infobox person/Wikidata| fetchwikidata=ALL| onlysourced=no | dateformat = dmy}} |
{{infobox person/Wikidata| fetchwikidata=ALL| onlysourced=no | dateformat = dmy}} |
||
[[Nofelydd]] ac athro [[Wcreiniaid|Wcreinaidd]] a ymfudodd i [[Canada|Ganada]] oedd '''Illia Kiriak''' neu '''Illia Kyrijak''', a seisnigodd ei enw weithiau i '''Elias Kiriak''' ({{iaith-uk|Ілля́ Кирія́к}}; [[29 Mai]] [[1888]] – [[28 Rhagfyr]] [[1955]]). Ei gampwaith ydy ''Syny zemli'' (Сини землі; 1939–45), nofel [[Realaeth (llenyddiaeth)|realaidd]] a gyhoeddwyd mewn tair chyfrol |

Ganwyd ym mhentref Zavallya (neu Zawale) ger [[Sniatyn]], yn Nheyrnas Galicia a Lodomeria, a leolir heddiw yn [[Oblast Ivano-Frankivsk]] yng ngorllewin [[yr Wcráin]]. Ymfudodd i Ganada yn ystod ei arddegau, tua 1907, ac ymsefydlodd yn [[Edmonton]], [[Alberta]]. Yno astudiodd ym [[Prifysgol Alberta|Mhrifysgol Alberta]], a gweithiodd fel athro mewn ysgolion gwledig y dalaith. Cyhoeddodd lyfr darllen llwyddiannus, ''Marusia'' (1947), ar gyfer plant oedd yn derbyn [[Yr iaith Wcreineg yng Nghanada#Addysg|addysg Wcreineg yng Nghanada]]. Ni chafodd deulu. Bu farw yn Edmonton yn 67 oed.<ref>Jars Balan, "The Populist Patriot: The Life and Literary Legacy of Illia Kiriak" yn ''Re-Imagining Ukrainian-Canadians: History, Politics, and Identity'', golygwyd gan Rhonda L. Hinther a Jim Mochoruk (Toronto: Gwasg Prifysgol Toronto, 2011), tt. 129–172.</ref> |

Fersiwn yn ôl 20:49, 10 Rhagfyr 2019
Illia Kiriak | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mai 1888 Zavallya |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1955 |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Nofelydd ac athro Wcreinaidd a ymfudodd i Ganada oedd Illia Kiriak neu Illia Kyrijak, a seisnigodd ei enw weithiau i Elias Kiriak (Wcreineg: Ілля́ Кирія́к; 29 Mai 1888 – 28 Rhagfyr 1955). Ei gampwaith ydy Syny zemli (Сини землі; 1939–45), nofel realaidd a gyhoeddwyd mewn tair chyfrol
Ganwyd ym mhentref Zavallya (neu Zawale) ger Sniatyn, yn Nheyrnas Galicia a Lodomeria, a leolir heddiw yn Oblast Ivano-Frankivsk yng ngorllewin yr Wcráin. Ymfudodd i Ganada yn ystod ei arddegau, tua 1907, ac ymsefydlodd yn Edmonton, Alberta. Yno astudiodd ym Mhrifysgol Alberta, a gweithiodd fel athro mewn ysgolion gwledig y dalaith. Cyhoeddodd lyfr darllen llwyddiannus, Marusia (1947), ar gyfer plant oedd yn derbyn addysg Wcreineg yng Nghanada. Ni chafodd deulu. Bu farw yn Edmonton yn 67 oed.[1]
Hanes epig o deuluoedd o ffermwyr Wcreinaidd yn Nhaleithiau'r Paith yw stori Syny zemli, sef "Meibion y Ddaear". Wedi ei farwolaeth, cyfieithwyd y gwaith i'r Saesneg gan Michael Luchkovich a'i gyhoeddi ar ffurf gryno dan y teitl Sons of the Soil (1959). Ystyrir Syny zemli yn un o'r nofelau neu gyfres o nofelau gwychaf yn holl lenyddiaeth Wcreineg Canada. Nid yw ei straeon byrion nac ei farddoniaeth cystal â'i driawd o nofelau, ac am hynny fe'i gelwir yn homo unius libri ("dyn y llyfr unigol") gan Danylo Struk.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Jars Balan, "The Populist Patriot: The Life and Literary Legacy of Illia Kiriak" yn Re-Imagining Ukrainian-Canadians: History, Politics, and Identity, golygwyd gan Rhonda L. Hinther a Jim Mochoruk (Toronto: Gwasg Prifysgol Toronto, 2011), tt. 129–172.
- ↑ Danylo Struk, "Ukrainian Emigré Literature in Canada" yn Identifications: Ethnicity and the Writer in Canada, golygwyd gan Jars Balan (Edmonton: Prifysgol Alberta, 1982), t. 92.