Kemper: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: war:Quimper |
→Pobl enwog o Kemper: +Nolwenn Korbell |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
</gallery> |
</gallery> |
||
== Pobl |
== Pobl o Kemper == |
||
*[[Dan Ar Braz]], cerddor |
*[[Dan Ar Braz]], cerddor |
||
*[[Nolwenn Korbell]], cantores |
|||
== Gweler hefyd: == |
== Gweler hefyd: == |
Fersiwn yn ôl 19:29, 15 Tachwedd 2010
Cymuned a thref Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Roedd y boblogaeth yn 67,127 yn 1999. Kemper yw prifddinas département Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.
Mae kemper yn air Llydaweg sy'n cyfateb i'r gair "cymer" (afon) yn Gymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11eg ganrif, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13eg ganrif a'r 16eg ganrif. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.
Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn adnabyddus am ei chrochenwaith. Mae ysgolion Diwan yn y dref.
Mae'n un o'r drefi ar lwybr pererindod y Tro Breizh.
-
Siop cerdd a llyfrau Ar Bed Keltiek
-
Siop Keltia Musique
Pobl o Kemper
- Dan Ar Braz, cerddor
- Nolwenn Korbell, cantores