Alfonso Reyes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B cat 20g Tagiau: Golygiad cod 2017 |
→Bywyd cynnar ac addysg (1889–1913): chwaneg Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
== Bywyd cynnar ac addysg (1889–1913) == |
== Bywyd cynnar ac addysg (1889–1913) == |
||
Ganwyd Alfonso Reyes ar 17 Mai 1889 ym [[Monterrey]], [[Nuevo León]], yng ngogledd-ddwyrain Mecsico. Cyhoeddodd ei gerddi cyntaf yn y papur newydd lleol.<ref name=RAF/> |
Ganwyd Alfonso Reyes ar 17 Mai 1889 ym [[Monterrey]], [[Nuevo León]], yng ngogledd-ddwyrain Mecsico. Cyhoeddodd ei gerddi cyntaf yn y papur newydd lleol.<ref name=RAF/> Mynychodd yr Escuela Nacional Preparatoria yn [[Dinas Mecsico|Ninas Mecsico]] cyn iddo astudio'r [[gyfraith]] yn y Facultad de Derecho.<ref name=EWB>{{eicon en}} "[https://www.encyclopedia.com/people/literature-and-arts/latin-american-literature-biographies/alfonso-reyes#1G23404705427 Alfonso Reyes]" yn ''Encyclopedia of World Biography'' (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Awst 2019.</ref> |
||
Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yn y brifddinas, Reyes oedd un o sefydlwyr yr Ateneo de la Juventud, cymdeithas o ddeallusion ifainc, yn 1909, a chyfranodd at y cyfnodolion ''Revista moderna'' a ''Savia moderna''. Ymunodd â'r ymdrechion i ddiwygio cyfundrefn addysg uwch Mecsico, a chafodd ran wrth drawsnewid cyfundrefn ysgolion yr Escuela Nacional Preparatoria a sefydlu'r Escuela de Altos Estudios yn 1910 a'r Universidad Popular yn 1912.<ref name=RAF>Rafael Olea Franco, "Reyes, Alfonso" yn ''Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003'', golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), tt. 487–88.</ref> Gweithiodd yn ysgrifennydd yn y Facultad de Estudios Superiores, ac yno addysgodd y cyrsiau ar yr iaith Sbaeneg a'i llenyddiaeth.<ref name=EWB/> Derbyniodd ei radd yn y gyfraith o Brifysgol Genedlaethol Ymreolus Mecsico (UNAM) yn 1913.<ref name=EB/> |
|||
Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y casgliad o ysgrifau ''Cuestiones estéticas'' (1911), ym [[Paris|Mharis]]. Er yr oedd Reyes dal yn fyfyriwr pan ysgrifennodd y llyfr hwnnw, denodd sylw am ei ysgolheictod gwreiddiol ac am geinder ei arddull. Ymhlith y pynciau llenyddol mae'n eu trafod mae'r cymeriad [[Electra]] yn [[theatr Groeg yr Henfyd]], llên Sbaen yn yr Oesoedd Canol a'r ''Siglo de Oro'' gan gynnwys astudiaeth o'r bardd [[Luis de Góngora]], dadansoddiad o waith y bardd Ffrangeg [[Stéphane Mallarmé]], ac ymdriniaeth â'r tir ym marddoniaeth Fecsicanaidd y 19g.<ref name=RAF/> |
Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y casgliad o ysgrifau ''Cuestiones estéticas'' (1911), ym [[Paris|Mharis]]. Er yr oedd Reyes dal yn fyfyriwr pan ysgrifennodd y llyfr hwnnw, denodd sylw am ei ysgolheictod gwreiddiol ac am geinder ei arddull. Ymhlith y pynciau llenyddol mae'n eu trafod mae'r cymeriad [[Electra]] yn [[theatr Groeg yr Henfyd]], llên Sbaen yn yr Oesoedd Canol a'r ''Siglo de Oro'' gan gynnwys astudiaeth o'r bardd [[Luis de Góngora]], dadansoddiad o waith y bardd Ffrangeg [[Stéphane Mallarmé]], ac ymdriniaeth â'r tir ym marddoniaeth Fecsicanaidd y 19g.<ref name=RAF/> |
Fersiwn yn ôl 01:54, 3 Awst 2019
Alfonso Reyes | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mai 1889 Monterrey |
Bu farw | 27 Rhagfyr 1959 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, diplomydd, cyfreithegwr, athronydd, cyfieithydd, bardd-gyfreithiwr, cyfreithiwr, ysgrifennwr, dyneiddiwr |
Swydd | llysgennad |
Cyflogwr | |
Tad | Bernardo Reyes |
Gwobr/au | Gwobr Genedlaethol y Celfyddydau a Gwyddorau, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico |
Bardd, ysgrifwr, awdur straeon byrion, a beirniad llenyddol Sbaeneg o Fecsico oedd Alfonso Reyes (17 Mai 1889 – 27 Rhagfyr 1959) a fu hefyd yn ddiplomydd ac addysgwr. Ystyrir yn un o awduron ac ysgolheigion llenyddol goreuaf Mecsico yn yr 20g, ac yn ffigur pwysig yn llên America Ladin yn gyffredinol. Meddai Jorge Luis Borges amdano, "Reyes heddiw ydy'r prif hombre de letras yn ein America. Ni ddywedaf y prif ysgrifwr, y prif storïwr, na'r prif fardd; dywedaf y prif hombre de letras, hynny yw y prif lenor a'r prif ddarllenwr [...] gyfaill i Montaigne, i Goethe, i Stevenson, ac i Homeros, ni ellir cymharu dim â natur agored ei ysbryd".[1]
Bywyd cynnar ac addysg (1889–1913)
Ganwyd Alfonso Reyes ar 17 Mai 1889 ym Monterrey, Nuevo León, yng ngogledd-ddwyrain Mecsico. Cyhoeddodd ei gerddi cyntaf yn y papur newydd lleol.[2] Mynychodd yr Escuela Nacional Preparatoria yn Ninas Mecsico cyn iddo astudio'r gyfraith yn y Facultad de Derecho.[3]
Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yn y brifddinas, Reyes oedd un o sefydlwyr yr Ateneo de la Juventud, cymdeithas o ddeallusion ifainc, yn 1909, a chyfranodd at y cyfnodolion Revista moderna a Savia moderna. Ymunodd â'r ymdrechion i ddiwygio cyfundrefn addysg uwch Mecsico, a chafodd ran wrth drawsnewid cyfundrefn ysgolion yr Escuela Nacional Preparatoria a sefydlu'r Escuela de Altos Estudios yn 1910 a'r Universidad Popular yn 1912.[2] Gweithiodd yn ysgrifennydd yn y Facultad de Estudios Superiores, ac yno addysgodd y cyrsiau ar yr iaith Sbaeneg a'i llenyddiaeth.[3] Derbyniodd ei radd yn y gyfraith o Brifysgol Genedlaethol Ymreolus Mecsico (UNAM) yn 1913.[4]
Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y casgliad o ysgrifau Cuestiones estéticas (1911), ym Mharis. Er yr oedd Reyes dal yn fyfyriwr pan ysgrifennodd y llyfr hwnnw, denodd sylw am ei ysgolheictod gwreiddiol ac am geinder ei arddull. Ymhlith y pynciau llenyddol mae'n eu trafod mae'r cymeriad Electra yn theatr Groeg yr Henfyd, llên Sbaen yn yr Oesoedd Canol a'r Siglo de Oro gan gynnwys astudiaeth o'r bardd Luis de Góngora, dadansoddiad o waith y bardd Ffrangeg Stéphane Mallarmé, ac ymdriniaeth â'r tir ym marddoniaeth Fecsicanaidd y 19g.[2]
Gyrfa ddiplomyddol (1913–39)
Cychwynnodd Reyes ar yrfa yn y gwasanaeth diplomyddol yn Ffrainc yn 1913. Cafodd seibiant i astudio ac addysgu yn y Centro de Estudios Históricos ym Madrid o 1914 i 1919. Gwasanaethodd yn llysgenhadaeth Mecsico yn Sbaen o 1920 i 1927. Penodwyd yn llysgennad i'r Ariannin yn 1927 a 1936–37, ac i Frasil yn 1930–36 a 1938–39. Bu'n aml yn cynrychioli Mecsico mewn cynadleddau diwylliannol rhyngwladol.[4]
Yn ystod y cyfnod hwn, cyhoeddodd Reyes nifer o weithiau ysgolheigaidd a chreadigol mewn sawl cyfrwng, gan gynnwys y traethawd ar ffurf cerdd brôs Visión de Anáhuac (1917), y casgliad o ymgomion a brasluniau llenyddol El plano oblicuo (1920) , y gyfrol o gerddi Huellas (1922), a'r ysgrifau Reloj de sol (1926). Ysgrifennodd ragor am lenyddiaeth Roeg glasurol a cheinion llên Sbaen, a chyfieithodd hefyd nifer o weithiau o'r Saesneg a'r Ffrangeg i'r Sbaeneg.
Dychwelyd i Fecsico (1939–59)
Ymddeolodd Reyes o'r gwasanaeth diplomyddol yn 1939 a dychwelodd i'w famwlad i fyw am weddill ei oes. Cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth a damcaniaeth lenyddol: La crítica de la edad ateniense (1941), La antigua retórica (1942), La experienca literaria (1942), ac El deslinde: prolegómenos a la teoría literaria (1944). Yn y cyfnod hwn aeth i'r afael â'i orchest o gyfieithu ac addasu penillion yr Iliad. Llenor hynod o gynhyrchiol oedd Reyes, ac mae ei holl ysgrifeniadau, barddoniaeth, rhyddiaith, ac ysgolheictod, yn llenwi 26 o gyfrolau.[2]
Bu farw yn Ninas Mecsico ar 27 Rhagfyr 1959 yn 70 oed.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Jorge Luis Borges, "El primer hombre de letras de nuestra América" yn Borges ante el espejo, golygwyd gan Jorge Mejía Prieto a Justo R. Molachino (Dinas Mecsico: Editorial Lectorum, 1995), tt. 35–36.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Rafael Olea Franco, "Reyes, Alfonso" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), tt. 487–88.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) "Alfonso Reyes" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Awst 2019.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) Alfonso Reyes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Awst 2019.
Darllen pellach
- Robert T. Conn, The Politics of Philology: Alfonso Reyes and the Invention of the Latin American Literary Tradition (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 2002).
- E. Mejía Sánchez, La vida en la obra de Alfonso Reyes (Dinas Mecsico: Secretaría de Educación Pública, 1966).
- J. W. Robb (gol.), Por los caminos de Alfonso Reyes (Dinas Mecsico: INBA, 1981).
- J. W. Robb, "Alfonso Reyes" yn Latin American Writers cyfrol 2, golygwyd gan C. A. Solé ac M. I. Abreu (Efrog Newydd: Scribners, 1989), tt. 693–703.
- Addysgwyr Mecsicanaidd
- Beirdd Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Beirniaid llenyddol Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Cyfieithwyr Mecsicanaidd
- Diplomyddion Mecsicanaidd
- Genedigaethau 1889
- Llenorion Mecsicanaidd yr 20fed ganrif
- Llenorion straeon byrion Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Marwolaethau 1959
- Pobl o Monterrey
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg