Bologna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 31: Llinell 31:
[[Categori:Bologna| ]]
[[Categori:Bologna| ]]
[[Categori:Dinasoedd yr Eidal]]
[[Categori:Dinasoedd yr Eidal]]
[[Categori:Emilia-Romagna]]
[[Categori:Dinasoedd Emilia-Romagna]]

Fersiwn yn ôl 21:41, 4 Gorffennaf 2019

Bologna

Dinas yng ngogledd yr Eidal yw Bologna (Lladin Bononia). Hi yw prifddinas talaith Emilia-Romagna, rhwng Afon Po a mynyddoedd yr Appenninau.

Sefydlwyd y ddinas gan yr Etrwsciaid fel Felsina oddeutu'r flwyddyn 534 CC. Yn y 4g CC, concrwyd y ddinas gan lwyth Celtaidd y Boii, a chafodd yr enw Bononia. Daeth yn colonia Rhufeinig tua 189 CC, ac ychwanegwyd at bwysigrwydd y ddinas pan adeiladwyd y Via Aemilia yn 187 CC. Daeth yn municipium yn 88 CC, ac am gyfnod fe'i hystyrid yn ail ddinas yr Eidal.

Yn 728, cipiwyd y ddinas gan Liutprand, brenin y Lombardiaid. Yn 1088, sefydlwyd Prifysgol Bologna, Alma Mater Studiorum, y brifysgol hynaf yn y byd gorllewinol.

Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 371,337.[1]

Adeiladau a chofadeiladau

  • Arca di San Domenico
  • Basilica San Petronio
  • Collegio di Spagna
  • Palazzo d'Accursio
  • Porta Saragozza
  • Stadio Renato Dall'Ara
  • Teatro Comunale di Bologna

Pobl o Fologna

Cyfeiriadau

  1. City Population; adalwyd 8 Mai 2018