Amldduwiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: be-x-old:Політэізм |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: pnb:پولیتھیازم |
||
Llinell 65: | Llinell 65: | ||
[[no:Polyteisme]] |
[[no:Polyteisme]] |
||
[[pl:Politeizm]] |
[[pl:Politeizm]] |
||
[[pnb:پولیتھیازم]] |
|||
[[pt:Politeísmo]] |
[[pt:Politeísmo]] |
||
[[ro:Politeism]] |
[[ro:Politeism]] |
Fersiwn yn ôl 23:18, 3 Medi 2010
Amldduwiaeth yw'r gred mewn nifer o dduwiau a duwiesau, yn aml mewn pantheon. Yn aml mae mytholeg ynghlwm a'r duwiau, yn eu portreadu gyda chymeriadau a phriodoleddau gwahanol. Mewn rhai ffurfiau o amldduwiaeth, credir fod y duwiau a'r duwiesau i gyd yn wahanol agweddau ar un bod dwyfol.
Un enghraifft hanesyddol o amldduwiaeth yw Crefydd yr Hen Aifft, lle'r oedd nifer fawr o dduwiau a duwiesau, rhai yn cymryd ffurfiau dynol ac eraill ffurfiau anifeiliaid. Rhai o'r prif dduwiau oedd Amon, Ra, Ptah, Isis ac Osiris. Ceir nifer fawr o dduwiau a duwiesau hefyd yng nghrefydd y Groegiaid, a chrefydd debyg y Rhufeiniaid; roedd gan y Celtiaid hefyd nifer fawr o dduwiau.
Yn aml, ceir yr un math o dduw neu dduwies yn ymddangos mewn traddodiadau gwahanol:
Ymhlith crefyddau modern, Hindŵaeth yw'r enghraifft amlycaf o amldduwiaeth. Ystyrir bod y duwiau a duwiesau i gyd yn agweddau ar yr hanfod dwyfol Brahman. Ceir rhai ysgolion mewn Hindŵaeth sy'n addoli un duw un unig, er enghraifft Vishnu neu Shiva, er heb wadu bodolaeth y gweddill.
Coleddir undduwiaeth gan grefyddau megis Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Yn ôl y Qur'an, shirk (amldduwiaeth) yw'r pechod mwyaf.