Edrychiad Cynta': Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
| math = [[Albwm]] |
| math = [[Albwm]] |
||
| artist = [[Iwcs a Doyle]] |
| artist = [[Iwcs a Doyle]] |
||
| clawr = |
| clawr = Edrychiad cynta'.jpg |
||
| rhyddhawyd = 3 Mawrth 1997 |
| rhyddhawyd = 3 Mawrth 1997 |
||
| recordiwyd = 1996 |
| recordiwyd = 1996 |
Fersiwn yn ôl 18:55, 18 Awst 2010
Edrychiad Cynta' | ||
---|---|---|
Clawr Edrychiad Cynta' | ||
Albwm stiwdio gan Iwcs a Doyle | ||
Rhyddhawyd | 3 Mawrth 1997 | |
Recordiwyd | 1996 | |
Genre | Pop | |
Hyd | 37:54 | |
Label | Recordiau Sain | |
Cynhyrchydd | - |
Edrychiad Cynta' oedd albwm stiwdio gyntaf y deuawd Iwcs a Doyle, cafodd ei rhyddhau ym mis Mawrth 1997. Cafodd yr albwm ei recordio yn sgîl llwyddiant Iwcs a Doyle yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 1996 efo'r gân Cerrig yr afon.
Recordiwyd Edrychiad cynta' yn stiwdios Sain, Llandwrog ger Caernarfon yn 1996. Ysgrifennwyd y traciau i gyd gan Iwan "Iwcs" Roberts a John Doyle, heblaw am y gân Rhywbeth bach, a ysgrifenwyd gan Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr. Nodweddir y caneuon ar yr albwm fel baledi a chaneuon acwstic yn bennaf. Amlygir amrywiaeth o arddulliau cerddorol ar yr albwm, gan gynnwys pop, gwerin a ffync.
Bu'r albwm yn llwyddiant ysgubol a gwerthodd yn well nac unrhyw albwm Gymraeg arall cyn hynny, camp na chafodd ei oresgyn hyd nes i'r albwm Mwng gael ei rhyddhau gan y Super Furry Animals yn y flwyddyn 2000.
Rhestr traciau
Rhif | Teitl | Hyd |
---|---|---|
1 | Clywed sŵn | 4:00 |
2 | Cerrig yr afon | 3:43 |
3 | Ffydd y cyrdd | 2:31 |
4 | Pentiwr bach, a'r cynfas gwyn | 4:20 |
5 | Blodeuwedd | 3:19 |
6 | Rhywbeth bach | 4:20 |
7 | Edrychiad cynta' | 3:50 |
8 | Trawscrwban | 3:12 |
9 | Da iawn | 3:26 |
10 | M.P.G. | 5:16 |
11 | Boi scrap | 2:17 |
Personel
- Iwcs a Doyle
- Iwan "Iwcs" Roberts– lleisiau blaen, cytgord a chefndir.
- John Doyle - llais cefndir; gitâr rhythm a gitâr flaen acwstic a thrydanol.
- Cerddorion eraill a chynhyrchwyr
- Geraint Jarman - llais blaen a chefndir (ar Rhywbeth bach).
- Tich Gwilym - gitâr flaen drydanol (ar Rhywbeth bach).
- Pwyll ap Siôn – Allweddellau a Piano.
- Paula Gardiner – bâs dwbl.
- Graham Land – drymiau ac offerynnau taro.
- Enw – Cynhyrchwr.
- Enw – Peirianydd.
Dolenni Allanol
- [1], Gwybodaeth gefndirol ar yr albwm ar wefan recordiau Sain.