Eid ul-Fitr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Lloffiwr (sgwrs | cyfraniadau) B categori |
B robot Adding: es, fa, hi, simple, zh Modifying: de, ms, no |
||
Llinell 39: | Llinell 39: | ||
[[ar:عيد الفطر]] |
[[ar:عيد الفطر]] |
||
[[da:Eid ul-Fitr]] |
[[da:Eid ul-Fitr]] |
||
[[de: |
[[de:Zuckerfest]] |
||
[[en:Eid ul-Fitr]] |
[[en:Eid ul-Fitr]] |
||
[[eo:Eid ul-Fitr]] |
[[eo:Eid ul-Fitr]] |
||
⚫ | |||
[[fa:عيد فطر]] |
|||
[[fr:Aïd el-Fitr]] |
[[fr:Aïd el-Fitr]] |
||
⚫ | |||
[[he:עיד אל-פיטר]] |
[[he:עיד אל-פיטר]] |
||
[[hi:ईद उल-फ़ित्र]] |
|||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
[[nl:Suikerfeest]] |
[[nl:Suikerfeest]] |
||
⚫ | |||
[[nn:Id ul-fitr]] |
[[nn:Id ul-fitr]] |
||
[[no:Id ul-Fitr]] |
|||
[[pt:Eid ul-Fitr]] |
[[pt:Eid ul-Fitr]] |
||
[[ru:Праздник разговения]] |
[[ru:Праздник разговения]] |
||
[[simple:Eid ul-Fitr]] |
|||
[[sl:Eid ul-Fitr]] |
[[sl:Eid ul-Fitr]] |
||
[[sv:Eid ul-Fitr]] |
[[sv:Eid ul-Fitr]] |
||
[[tr:Ramazan Bayramı]] |
[[tr:Ramazan Bayramı]] |
||
[[zh:肉孜节]] |
Fersiwn yn ôl 17:43, 15 Tachwedd 2006
Eid ul-Fitr (Arabeg: عيد الفطر), neu Aïd el-Fitr (yng Ngogledd Affrica), yw'r ŵyl Islamaidd a ddethlir gan Fwslemiaid ar ddiwedd mis sanctaidd Ramadan.
Arwyddocád Eid
Dethlir Eid ar ddyfodiad y lleuad newydd ar ddiwedd Ramadan, sef diwrnod cyntaf mis Shawaal, degfed fis y calendr Islamaidd, sy'n dilyn y lleuad. Mae'n dynodi diwedd y mis sanctaidd hwnnw - pan ymprydia Mwslemiaid yn ystod y dydd gan bwyta gyda'r nos yn unig - ac fe'i dethlir gyda gweddïau arbennig, gwleddau teuluol a chyfnewid anrhegion a bendithion.
Ystyr Eid ul-Fitr yn llythrennol yw "Diwedd yr Ympryd" (eid "diwedd", ul- "yr", fitr "ympryd"). Mae pobl yn gwisgo dillad newydd, yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn mynd i'r fosg yn y bore i gymryd rhan yn Salat ul-Eid (gweddïau Eid) a gwrando pregethau. Mae pawb yn dymuno Eid Mubarak ("bendith Eid") i'w gilydd.
Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen (zaqat neu zakat) i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir yn un o bump colofn y ffydd Islamaidd (Arkán al-Dín). Yr enw ar elusen Eid yw 'Zaqat ul-Eid.
Dathliadau
Mae Eid ul-Fitr yn amser i ddathlu bywyd ac i ddiolch am fendithion Duw. Mewn cyferbyniaeth lwyr â gweddill Ramadan mae ymprydio ar Eid ul-Fatr yn cael ei ystyried yn weithred aflan. Dyma'r amser i fod yn llaw-agored wrth bawb, i anghofio hen gwerylau a drwgdeimladau ac i droi tudalen newydd gan fod pechodau'r hen flwyddyn yn cael eu golchi i ffwrdd trwy gadw Ramadan.
Uchafbwynt Eid yw'r glwedda mawr sy'n parhau trwy'r nos. Mae teuluoedd ar wasgar yn ymgynnull ac mae pobl yn mynd o dŷ i dŷ i gymryd rhan mewn gwleddau traddodiadol gyda phrydau arbennig a digonedd o ddiodydd, cacenau, pwdins a melysion. Mae pawb yn rhoi anrhegion bach a melysion i blant, yn y cartref ac yn y stryd. Mae teuluoedd sy'n medru ffordio hynny yn lladd dafad neu fuwch ar gyfer yr ŵyl, mewn coffiadwriaeth o aberth Ibrahim (Abraham); rhoddir y cig i aelodau o'r teulu, i ffrindiau ac i'r tlawd a'r anghenus.
Mae goleuni'n bwysig hefyd. Rhoddir goleuadau lliwgar ar y mosgiau ac yn y strydoedd ac mae pawb yn ymdrechu i wisgo'n ddeniadol. Clywir cerddoriaeth seciwlar a chrefyddol ymhobman, o uchelseinyddion ar y strydoedd, yn y caffis a'r bwytai ac yn y gwleddau teuluol.
Enwau eraill am Eid
Yn Morocco mae Aïd el-Fitr yn cael ei galw 'n Aïd es-Seghir, mewn cyferbyniaeth ag Eid ul-Kabir (neu Aïd el-Kebir), Gŵyl yr Aberth; y ddwy ŵyl hon yw'r dyddiau gŵyl pwysicaf gan y Mwslemiaid.
Yn Twrci, mae'r ŵyl yn cael ei galw'n şeker bayramı, sef Gŵyl y Siwgr, oherwydd fod cymaint o ddanteithion melus yn cael eu bwyta gyda'r nos.
Yn Ngorllewin Affrica, mewn gwledydd fel Mali, Senegal a Niger, enwir yr ŵyl Korité.
Dyddiadau nesaf Eid ul-Fitr
Gan fod union ddyddiad Eid yn amrywio rhywfaint o wlad i wlad a bod y calendr Islamaidd yn dilyn y lleuad, amcangyfrif yw'r dyddiadau isod.