Cynan Dindaethwy ap Rhodri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: it |
cat |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion) |
''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion) |
||
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]] |
|||
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]] |
|||
[[Categori:Hanes Cymru]] |
|||
[[Category: Cymry enwog]] |
[[Category: Cymry enwog]] |
||
[[en:Cynan Dindaethwy ap Rhodri]] |
[[en:Cynan Dindaethwy ap Rhodri]] |
Fersiwn yn ôl 23:34, 4 Tachwedd 2006
Yr oedd Cynan Dindaethwy ap Rhodri (bu farw 816) yn frenin Gwynedd.
Yn ôl yr achau, yr oedd Cynan yn fab i Rhodri Molwynog. Bu Rhodri farw yn 754 ac nid oes sôn am Cynan hyd 813, felly awgrymir yn Y Bywgraffiadur Cymreig fod gwall yn yr achau. Daeth Cynan yn frenin Gwynedd ar farwolaeth Caradog ap Meirion, y dywedir ei fod yn gefnder iddo. Bu Cynan yn ymladd a Hywel, ei frawd yn ôl Dr. David Powel, er ei fod yn cael ei alw yn Hywel ap Caradog ambell dro. Yn 814 llwyddodd Hywel i gipio Ynys Môn oddi wrth Cynan. Yn 816 enillodd Cynan yr ynys yn ôl, ond bu farw'r flwyddyn honno.
Mae'n ymddangos mai Castell Dindaethwy oedd y "Dindaethwy" yn ei enw, a chredir mai caer ar fryn ger Plas Cadnant, Porthaethwy ar Ynys Môn ydoedd. Daeth ei ferch Eshyllt yn fam i Merfyn Frych, tad Rhodri Mawr.
O'i flaen : Caradog ap Meirion |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Hywel ap Rhodri Molwynog |
Cyfeiriadau
Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)