Falls Road: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
pytiau o wybodaeth, llyfryddiaeth |
|||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*[[Gerry Adams]], ''[[Falls |
*[[Gerry Adams]], ''[[Falls Memories]]'' (1982; argraffiad newydd, Llyfrau Brandon, 1993). ISBN 0-86322-013-4 |
||
==Dolenni allanol== |
==Dolenni allanol== |
Fersiwn yn ôl 22:58, 19 Ebrill 2010
Lleolir y Falls Road (o'r enw Gwyddeleg: Bóthar na bhFál sef "ffordd y cloddiau") yng ngorllewin Belffast, Gogledd Iwerddon. Dyma'r brif ffordd yng ngorllewin Belffast, sy'n rhedeg o Stryd Divis (Divis Street) yng nghanol y ddinas i Andersonstown yn y maesdrefi. Mae ei enw yn gysylltiedig â chyfnod Helyntion Gogledd Iwerddon a chymunedau Catholig a Gweriniaethol y ddinas. Mae'r ardal gyfagos o gwmpas Ffordd Shankill (Shankhill Road) yn ardal Brotestannaidd yn bennaf, a wahanir o'r Falls gan "linellau heddwch". Dyma'r rhan o Felffast lle ceir y nifer uchaf o siaradwyr Gwyddeleg. Defnyddir yr enw i gyfeirio at y rhan honno o Orllewin Belffast sy'n gorwedd ger y ffordd hefyd.
Hanes
Mae hanes y Falls yn dechrau yn gynnar yn y 19eg ganrif pan ddaeth yn gartref i bobl a symudodd i weithio yn ffatrioedd brethyn Belffast. Cynyddodd y boblogaeth yn gyflym yn ail hanner y ganrif honno a chodwyd tai elfennol i'r gweithwyr, heb dŵr na thoiledau, ar hyd y Falls ac yn yr ardal gyfagos. Roedd yn gymuned dlawd a difreintiedig iawn ond clos.
Ar ddiwedd y 1960au, dechreuodd nifer o Gatholigion Gogledd Iwerddon ymgyrchu dros gael hawliau sifil. Roedd hyn yn cynnwys galw am ddiwedd i'r gwahaniaethu ar sail crefydd yn achos tai a gwaith. Gwrthwynebwyd Mudiad Hawliau Sifil Gogledd Iwerddon gan rhai Unoliaethwyr. Ymosodwyd ar ardaloedd Catholig. Llosgwyd sawl stryd o gwmpas y Falls Road gan 'teyrngarwyr' yn Awst 1969 ac anfonodd llywodraeth y DU y Fyddin Brydeinig i strydoedd y Falls Road. Cawsont groeso i gychwyn gan drigolion y Falls, yn y gobaith o gael amddiffyn rhag yr ymosodiadau, ond newidiodd ei hagwedd wrth iddynt farnu fod y Fyddin yno yn eu herbyn nhw. Yn 1970 cafwyd yr hyn a alwyd y 'Falls Curfew'. Yn dilyn ymosodiad gan y Provisional IRA, amgylchynwyd strydoedd y Falls, sy'n gartref i tua 10,000, gan 3000 o filwyr Prydeinig, a ollyngodd nwy CS. Dilynodd brwydr ffyrnig rhwng yr IRA Swyddogol a'r Fyddin Brydeinig. Lladdwyd pedwar o sifiliaid Catholig gan y Fyddin mewn penwythnos. Am 30 mlynedd ar ôl hynny bu gan y Fyddin Brydeinig bresenoldeb sylweddol yn y Falls Road, gyda gwersyll i gadw golwg ar y Falls ar loriau uchaf y Tŵr Divis a wasanaethid gan hofrenyddion: cafodd hyn ei symud yn Awst 2005.
Pobl
Mae pobl a gysylltir â'r Falls Road yn cynnwys James Connolly, a arosodd yno am gyfnod ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac Eamon de Valera, a safodd fel ymgeisydd y Falls yn etholiad cyffredinol 1918. Magwyd Gerry Adams, arweinydd Sinn Fein, yn y Falls ac yno mae wedi treulio rhan helaeth ei oes.
Llyfryddiaeth
- Gerry Adams, Falls Memories (1982; argraffiad newydd, Llyfrau Brandon, 1993). ISBN 0-86322-013-4