Falls Memories

Oddi ar Wicipedia
Falls Memories
Enghraifft o'r canlynolllyfr Edit this on Wikidata
AwdurGerry Adams Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1982 Edit this on Wikidata


Llyfr gan Gerry Adams, arweinydd Sinn Féin yw Falls Memories, a gyhoeddwyd yn 1982. Mae'n disgrifio hanes a chymeriadau ardal y Falls Road yng Ngorllewin Belffast, lle ganed yr awdur yn 1948. Mae'n cynnwys hefyd nifer o atgofion personol a detholiad o ganeuon a rhigymau poblogaidd.

Er bod Helyntion Gogledd Iwerddon a hanes gwleidyddol y Chwe Sir (Gogledd Iwerddon) yn rhan anorfod o'r deunydd, mae'r pwyslais ar y personol ac mae'n fwy o gyfrol o atgofion a darlun o gymuned unigryw nag o lyfr hanes gwleidyddol. Cafodd ei ddisgrifio gan Paddy Devlin fel llyfr "sy'n llawn o hiwmor diniwed".[1]

Ychwanegir at werth y gyfrol gan y detholiad o ganeuon a rhigymau o'r Falls sy'n britho'r llyfr. Ceir yn ogystal sawl darlun inc gan yr arlunydd Michael McKernon.

Manylion cyhoeddi[golygu | golygu cod]

  • Gerry Adams, Falls Memories (1982; argraffiad newydd, Llyfrau Brandon, 1993). ISBN 0-86322-013-4

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Falls Memories (argraffiad newydd, 1993), adolygiadau'r clawr.