Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
[[Categori:Safleoedd Clasurol]] |
[[Categori:Safleoedd Clasurol]] |
||
[[Categori:Mytholeg Glasurol]] |
[[Categori:Mytholeg Glasurol]] |
||
[[ca:Dodona]] |
|||
[[de:Dodona]] |
|||
[[el:Δωδώνη]] |
|||
[[en:Dodona]] |
|||
[[es:Oráculo de Dódona]] |
|||
[[fr:Dodone]] |
|||
[[it:Dodona]] |
|||
[[la:Dodona]] |
|||
[[nl:Dodona]] |
|||
[[pl:Dodona]] |
|||
[[ro:Dodona]] |
|||
[[ru:Додона]] |
|||
[[fi:Dodona]] |
|||
[[sv:Dodona]] |
Fersiwn yn ôl 15:24, 1 Hydref 2006
Hen ganolfan grefyddol ger Ioaninna yn nhalaith Epiros (Epirus), gogledd-orllewin Gwlad Groeg.
Ystyrid Oracl y duw Zeus yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg Homer yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn yr Iliad ac yn yr Odyssey. Dywed y daearyddwr Strabo fod yr oracl wedi cael ei symud yno o Skotoussa yn Thessaly ar orchymyn y duw Apollo, ond yn ôl yr hanesydd Herodotus sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o Thebes (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno.
Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y selloi, nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y bythones yn Delphi. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden.
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.
Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 C.C.-272 C.C.), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).
Llyfryddiaeth
- Stuart Rossiter (gol.), Greece yn y gyfres Blue Guides (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)