Philip yr Arab: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SpBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn tynnu: mk:Филип Апапски |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: hu:Philippus Arabs római császár; cosmetic changes |

Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:AV Antoninianus Phillipus .JPG|right|thumb|Philip yr Arab]] |
[[Delwedd:AV Antoninianus Phillipus .JPG|right|thumb|Philip yr Arab]] |

'''Marcus Iulius Philippus''' (c.[[204]] - [[249]]), mwy adnabyddus fel '''Philip yr Arab''' neu '''Philip I''', oedd |
'''Marcus Iulius Philippus''' (c.[[204]] - [[249]]), mwy adnabyddus fel '''Philip yr Arab''' neu '''Philip I''', oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[244]] hyd 249. |

Dywed rhai ffynonellau fod Philip yn fab |
Dywed rhai ffynonellau fod Philip yn fab i [[sheic]] [[Bedouin]]. Yn ôl eraill ganed ef yn [[Shahba]] yn fab i Julio Marino, dinesydd Rhufeinig o darddiad bonheddig lleol. Priododd Rhilip a Marcia Octacilia Severa yn [[238]] a bu ganddynt un mab, Marcus Julius Severus Philipus, a ddaeth yn Philip II. |

Ymmunodd Philip a'r fyddin a dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn gadfridog dan yr ymerawdwr [[Gordian III]]. Ef oedd pennaeth y llengoedd yn nhalaith [[Mesopotamia]]. Daeth Gordian i'r dwyrain i ymgyrchu yn erbyn y [[Persiaid]] oedd yn bygwth Mesopotamia. Pan fu farw Timisetus, pennaeth [[Gard y Praetoriwm]], tad-yng-nghyfraith Gordian a'i brif gynghorydd, penodwyd Philip yn bennaeth y Praetoriaid yn ei le. Ymddengys i Philip gynllwynio yn erbyn Gordian a'i lofruddio yn [[243]]. Cyhoeddwyd Philip yn ymerawdwr gan y [[Lleng Rufeinig|llengoedd]], ac wedi cytuno telerau heddwch a [[Sapor I]], brenin Persia, aeth i [[Rhufain|Rufain]] lle cydnabuwyd ef yn ymerawdwr gan y [[Senedd Rhufain|Senedd]]. Cyhoeddodd ei fab Marcus Julius Severus Philipus fel ''Cesar''. |

Llinell 16: | Llinell 16: | ||
{| border=2 align="center" cellpadding=5 |
{| border=2 align="center" cellpadding=5 |

|width="30%" align="center"|'''O'i flaen :
'''[[Gordian III]] |
|width="30%" align="center"|'''O'i flaen :
'''[[Gordian III]] |

|width="40%" align="center"|'''[[Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodron Rhufain]]
Philip yr Arab''' |
|width="40%" align="center"|'''[[Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodron Rhufain]]
Philip yr Arab''' |

|width="30%" align="center"|'''Olynydd :
'''[[Decius]] |
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :
'''[[Decius]] |

Llinell 45: | Llinell 45: | ||
[[he:פיליפוס הערבי]] |
[[he:פיליפוס הערבי]] |

[[hr:Filip Arapin]] |
[[hr:Filip Arapin]] |

[[hu:Philippus Arabs]] |
[[hu:Philippus Arabs római császár]] |

[[id:Filipus Si Arab]] |
[[id:Filipus Si Arab]] |

[[it:Filippo l'Arabo]] |
[[it:Filippo l'Arabo]] |
Fersiwn yn ôl 11:05, 28 Hydref 2009
Marcus Iulius Philippus (c.204 - 249), mwy adnabyddus fel Philip yr Arab neu Philip I, oedd ymerawdwr Rhufain o 244 hyd 249.
Dywed rhai ffynonellau fod Philip yn fab i sheic Bedouin. Yn ôl eraill ganed ef yn Shahba yn fab i Julio Marino, dinesydd Rhufeinig o darddiad bonheddig lleol. Priododd Rhilip a Marcia Octacilia Severa yn 238 a bu ganddynt un mab, Marcus Julius Severus Philipus, a ddaeth yn Philip II.
Ymmunodd Philip a'r fyddin a dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn gadfridog dan yr ymerawdwr Gordian III. Ef oedd pennaeth y llengoedd yn nhalaith Mesopotamia. Daeth Gordian i'r dwyrain i ymgyrchu yn erbyn y Persiaid oedd yn bygwth Mesopotamia. Pan fu farw Timisetus, pennaeth Gard y Praetoriwm, tad-yng-nghyfraith Gordian a'i brif gynghorydd, penodwyd Philip yn bennaeth y Praetoriaid yn ei le. Ymddengys i Philip gynllwynio yn erbyn Gordian a'i lofruddio yn 243. Cyhoeddwyd Philip yn ymerawdwr gan y llengoedd, ac wedi cytuno telerau heddwch a Sapor I, brenin Persia, aeth i Rufain lle cydnabuwyd ef yn ymerawdwr gan y Senedd. Cyhoeddodd ei fab Marcus Julius Severus Philipus fel Cesar.
Tua dechrau eu deyrnasiad bu ymosodiadau gan yr Almaenwyr ar ffiniau'r ymerodraeth. Ymosododd y Gothiaid ar Moesia (Bwlgaria heddiw) tros Afon Donaw. Erbyn 248 yr oeddynt wedi ei gyrru allan o Moesia, ond yr oedd y llengoedd yn anfodlon, efallai am nad oeddynt wedi derbyn tâl digonol am eu buddugoliaeth. Gwrthryfelasant, a chyhoeddi Tiberius Claudius Pacatianus yn ymeradwdwr. Gorchfygwyd y gwrthryfel, a phenododd Philip Decius yn rhaglaw y dalaith.
Yn Ebrill 248 dathlodd Philip fil-flwyddiant sefydlu dinas Rhufain gan Romulus gyda chwaraeon. Fodd bynnag yr oedd y milwyr ar ffin Afon Donaw yn fwy a mwy anfodlon, ac yn nechrau 249 cyhoeddasant Decius yn ymerawdwr. Cychwynodd ef tua Rhufain gyda'i fyddin, ac mewn brwydr gerllaw Verona gorfchfygwyd byddin Philip a lladdwyd yntau. Pan gyrhaeddodd y newyddion i Rufain, llofruddiwyd ei fab.
Awgryma rhai haneswyr mai Philip oedd yr ymerawdwr cyntaf i fod yn Gristion. Ond nid oes unrhyw brawf o hyn, er ei fod yn eu goddef.
O'i flaen : Gordian III |
Ymerodron Rhufain Philip yr Arab |
Olynydd : Decius |