Stumog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: arc:ܐܣܛܘܡܟܐ |
B robot yn ychwanegu: hak:Vi |
||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
[[gl:Estómago]] |
[[gl:Estómago]] |
||
[[gn:Py'a]] |
[[gn:Py'a]] |
||
[[hak:Vi]] |
|||
[[he:קיבה]] |
[[he:קיבה]] |
||
[[hr:Želudac]] |
[[hr:Želudac]] |
Fersiwn yn ôl 20:53, 25 Hydref 2009
Organ ar ffurf bag o gyhyrau ydy'r stumog, ac fe'i ceir yn y rhan fwyaf o famaliaid. Organ sy'n dal bwyd a'i dreulio'n rhanol fel rhan o'r system dreulio. Daw o'r gair Lladin stomachus (groeg - στόμαχος), sy'n golygu "stumog", "gwddf" neu "falchder". [1]
Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio'n bennaf ar stumogau dynol, er fod cryn debygrwydd rhyngddo â'r rhan fwyaf o anifeiliaid,[2] ar wahân i'r fuwch sy'n hollol wahanol. [3]
Ei bwrpas
Mae tri prif bwrpas i'r stumog: lladd bacteria, torri'r darnau bwyd yn ddarnau llai er mwyn cael mwy o arwynebedd a chynal y bwyd am oriau a'i ollwng yn araf ac yn gyson. Ceir hylif asidig cryf ynddo i wneud y gwaith hwn, asid heidroclorig ydy hwnnw gyda pH o rhwng 1 a 2 - yn dibynnu ar ffactorau megis pa ran o'r diwrnod ydyw, y swm o fwyd a fwytwyd, cynnwys arall megis cyffuriau a ffactorau eraill. Yn yr hylif hwn y torrir y moleciwlau mawr yn rhai llai, fel y rhan gyntaf o'r broses dreulio - cyn gwthio'r bwyd i'r cam nesaf sef y coluddyn bach. Mae'r stumog dynol yn creu rhng 2.2 a 3 litr o'r asid gastrig hwn y dydd. Mae mwy ohono'n cael ei greu fin nos nac yn y bore. Gall y stumog ddal rhwng 2 a 4 litr o fwyd, gan ymestyn pan fo raid.