Pen-y-bryn, Abergwyngregyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neb bellach yn anghytuno |
1988 pan symudodd Kathryn Gibson i'r ty |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Yma y bu farw [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)|Y Dywysoges Siwan]], gwraig Llywelyn Fawr, a'u mab Dafydd ap Llywelyn. Yma hefyd y cafwyd [[Gwilym Brewys]] yn ystafell wely Siwan yn [[1230]]. Ceir nifer o lythyrau a dogfennau eraill sy'n nodi ei bod wedi eu hysgrifennu yng Ngarth Celyn. |
Yma y bu farw [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)|Y Dywysoges Siwan]], gwraig Llywelyn Fawr, a'u mab Dafydd ap Llywelyn. Yma hefyd y cafwyd [[Gwilym Brewys]] yn ystafell wely Siwan yn [[1230]]. Ceir nifer o lythyrau a dogfennau eraill sy'n nodi ei bod wedi eu hysgrifennu yng Ngarth Celyn. |
||
Ers 1988, haerwyd mai safle'r llys yw lle saif Pen y Bryn,<ref>[http://www.llywelyn.co.uk/index.html Gwefan llywelyn.co.uk]</ref> plasdy a adeiladwyd yn wreiddiol gan Rhys Thomas a'i wraig Jane, a gafodd y tiroedd hyn yn 1553. Dywedir iddynt adeiladu'r plasdy ar adfeilion y llys. Saif Pen y Bryn ar godiad tir ychydig i'r gorllewin o ganol pentref Abergwyngregyn, ar ochr arall yr afon, ar lethr wrth droed bryn coediog (SH653726). |
|||
==Delweddau== |
==Delweddau== |
Fersiwn yn ôl 07:45, 9 Hydref 2009
Safle llys Tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn oedd Garth Celyn.
Yn wreiddiol, Aberffraw ym Môn oedd prif lys brenhinllin Gwynedd, ond Garth Celyn, prif lys cantref Arllechwedd, oedd y prif lys yn ystod teyrnasiad Llywelyn Fawr, a pharhaodd yn brif lys yng nghyfnod ei olynwyr Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffudd. Mewn effaith, er bod y tywysogion yn dal i fynd "ar gylch" ar adegau o'r flwyddyn i gynnal y llys brenhinol yn lleol, Garth Celyn yn Aber oedd safle llys Tywysogaeth Cymru annibynnol yn y 13eg ganrif.
Saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros Fwlch y Ddeufaen yn disgyn at arfordir Afon Menai a'r fferi drosodd i Llanfaes ar Ynys Môn.
Yma y bu farw Y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, a'u mab Dafydd ap Llywelyn. Yma hefyd y cafwyd Gwilym Brewys yn ystafell wely Siwan yn 1230. Ceir nifer o lythyrau a dogfennau eraill sy'n nodi ei bod wedi eu hysgrifennu yng Ngarth Celyn.
Ers 1988, haerwyd mai safle'r llys yw lle saif Pen y Bryn,[1] plasdy a adeiladwyd yn wreiddiol gan Rhys Thomas a'i wraig Jane, a gafodd y tiroedd hyn yn 1553. Dywedir iddynt adeiladu'r plasdy ar adfeilion y llys. Saif Pen y Bryn ar godiad tir ychydig i'r gorllewin o ganol pentref Abergwyngregyn, ar ochr arall yr afon, ar lethr wrth droed bryn coediog (SH653726).
Delweddau
-
Y tŷ a'r tŵr lle carcharwyd Siwan.
-
Golwg manwl o'r tŵr.
-
Y tŵr eto.
-
Llun manwl.
-
Y capel y tu ôl i'r tŵr.
-
Yr hen fynedfa i Arth Celyn, drwy'r porth hwn
-
Y tu fewn i'r porth yn 2004