Ürümqi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|250px|Lleoliad Ürümqi '''Ürümqi''' yw prifddinas Rhanbarth Ymreolaethol [[Xi...'
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
[[Delwedd:Urumqi panorama.jpg|600px|thumb|center|Panorama o Ürümqi]]
[[Delwedd:Urumqi panorama.jpg|600px|thumb|center|Panorama o Ürümqi]]


[[Categori:Dinasoedd Gweriniaeth Pobl Tsieina]]
[[Categori:Gweriniaeth Pobl Tsieina]]





Fersiwn yn ôl 06:10, 8 Gorffennaf 2009

Lleoliad Ürümqi

Ürümqi yw prifddinas Rhanbarth Ymreolaethol Xinjiang, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 2,082,000. O holl ddinasoedd y byd gyda phoblogaeth dros filiwn, Ürümqi yw'r bellaf o'r môr.

Yng nghyfnod Brenhinllin Qing a Gweriniaeth Tsieina, enw'r ddinas oedd Dinghua 迪化. Yn 1954, newidiwyd yr enw i Wulumuqi 乌鲁木齐市/Ürümqi. Ystyr Ürümqi yw "teml goch" mewn Mongoleg a "meysydd hyfryd" mewn Uighureg.

Ürümqi yw dinas fwyaf rhan orllewinol Tsieina. Mewnfudodd llawer o Tsineaid Han i'r ddinas yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r Uighur brodorol bellach yn lleiafrif yn y ddinas, er mai hwy yw'r grŵp ethnig mwyaf yn Xinjiang gyfan. Ym mis Gorffennaf 2009, bu ymladd ar strydoedd y ddinas rhwng y ddau grŵp ethnig, a chredir i rai cannoedd gael ei lladd.

Panorama o Ürümqi