Ürümqi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ürümqi
Math dinas lefel rhaglawiaeth Edit this on Wikidata
Poblogaeth 3,112,559 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Ilham Sabir Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+08:00, Xinjiang Time Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Mashhad, Dushanbe, Batumi, Chelyabinsk Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Xinjiang Edit this on Wikidata
Gwlad Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Arwynebedd 10,989 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 800 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 43.825°N 87.6°E, 43.8°N 87.6°E Edit this on Wikidata
Cod post 830000 Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Ilham Sabir Edit this on Wikidata

Ürümqi yw prifddinas Rhanbarth Ymreolaethol Xinjiang, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 2,082,000. O holl ddinasoedd y byd gyda phoblogaeth dros filiwn, Ürümqi yw'r bellaf o'r môr.

Yng nghyfnod Brenhinllin Qing a Gweriniaeth Tsieina, enw'r ddinas oedd Dinghua 迪化. Yn 1954, newidiwyd yr enw i Wulumuqi 乌鲁木齐市/Ürümqi. Ystyr Ürümqi yw "teml goch" mewn Mongoleg a "meysydd hyfryd" mewn Uighureg.

Ürümqi yw dinas fwyaf rhan orllewinol Tsieina. Mewnfudodd llawer o Tsineaid Han i'r ddinas yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r Uighur brodorol bellach yn lleiafrif yn y ddinas, er mai hwy yw'r grŵp ethnig mwyaf yn Xinjiang gyfan. Ym mis Gorffennaf 2009, bu ymladd ar strydoedd y ddinas rhwng y ddau grŵp ethnig, a chredir i rai cannoedd gael ei lladd.

Panorama o Ürümqi

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Amgueddfa Xinjiang Uygur
  • Marchnad y Nos
  • Marchnad Erdaoqiao
  • Plaza Zhong Tian
  • Sgwâr y Bobol
  • Sgwâr Nanhu