Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
B robot yn ychwanegu: fr:Augusta Hall |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
[[en:Augusta Hall, Baroness Llanover]] |
[[en:Augusta Hall, Baroness Llanover]] |
||
[[fr:Augusta Hall]] |
Fersiwn yn ôl 07:36, 11 Mehefin 2009
Noddwraig y celfyddydau, y diwylliant a'r iaith Gymraeg oedd Augusta Hall, Arglwyddes Llanover (21 Mawrth 1802 - 17 Ionawr 1896), ganed Augusta Waddington.
Ganed hi yn Llanofer, gerllaw Y Fenni yn Sir Fynwy, yn ferch ieuengaf Benjamin Waddington, Ty Uchaf, Llanofer a'i wraig Georgina Port. Yn 1823, priododd Benjamin Hall, priodas a unodd ei ystad ef yn Abercarn a'i hystad hi yn Llanofer.
Roedd gan Arglwyddes Llanover ddiddordeb mawr mewn astudiaethau Celtaidd, a dylanwadwyd arni gan Thomas Price (Carnhuanawc) wedi iddi ei gyfarfod mewn eisteddfod leol yn 1826. Dysgodd Carnhuanawc Gymraeg iddi, a chymerodd yr enw barddol "Gwenynen Gwent". Daeth yn aelod cynnar o gymdeithas Cymreigyddion Y Fenni. Yn Eisteddfod Caerdydd 1834, enillodd y wobr gyntaf am draethawd Advantages resulting from the Preservation of the Welsh language and National Costume of Wales. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn y wisg Gymreig draddodiadol.
Yn 1850, cynorthwyodd i sefydlu Y Gymraes, y cylchgrawn cyntaf i ferched yn Gymraeg. Cyhoeddodd lyfr ar goginio traddodiadol Cymreig, ac roedd ganddi ddiddordeb yn y Delyn, gan gyflogi telynor preswyl yn Llanover Hall. Ariannodd eiriadur Cymraeg Daniel Silvan Evans.
Roedd hefyd yn cefnogi'r Mudiad Dirwest, a chaeodd bob tafarn ar ei hystad.