Amldduwiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: bat-smg:Puolėteėzmos |
dolen |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
Coleddir [[undduwiaeth]] gan grefyddau megis [[Iddewiaeth]], [[Cristnogaeth]] ac [[Islam]]. Yn ôl y [[Qur'an]], ''shirk'' (amldduwiaeth) yw'r pechod mwyaf. |
Coleddir [[undduwiaeth]] gan grefyddau megis [[Iddewiaeth]], [[Cristnogaeth]] ac [[Islam]]. Yn ôl y [[Qur'an]], ''shirk'' (amldduwiaeth) yw'r pechod mwyaf. |
||
== Gweler hefyd == |
|||
* [[Amldduwiaeth Geltaidd]] |
|||
* [[Paganiaeth]] |
|||
[[Categori:Amldduwiaeth| ]] |
[[Categori:Amldduwiaeth| ]] |
Fersiwn yn ôl 19:17, 10 Mehefin 2009
Amldduwiaeth yw'r gred mewn nifer o dduwiau a duwiesau, yn aml mewn pantheon. Yn aml mae mytholeg ynghlwm a'r duwiau, yn eu portreadu gyda chymeriadau a phriodoleddau gwahanol. Mewn rhai ffurfiau o amldduwiaeth, credir fod y duwiau a'r duwiesau i gyd yn wahanol agweddau ar un bod dwyfol.
Un enghraifft hanesyddol o amldduwiaeth yw Crefydd yr Hen Aifft, lle roedd nifer fawr o dduwiau a duwiesau, rhai yn cymeryd ffurfiau dynol ac eraill ffurfiau anifeiliaid. Rhai o'r prif dduwiau oedd Amon, Ra, Ptah, Isis ac Osiris. Ceir nifer fawr o dduwiau a duwiesau hefyd yng nghrefydd y Groegiaid, a chrefydd debyg y Rhufeiniaid; roedd gan y Celtiaid hefyd nifer fawr o dduwiau.
Ym aml, ceir yr un math o dduw neu ddiwies yn ymddangos mewn traddodiadau gwahanol:
Ymhlith crefyddau modern, Hindwaeth yw'r enghraifft amlycaf o amldduwiaeth. Ystyrir bod y dduwiau a duwiesau i gyd yn agweddau ar yr hanfod dwyfol Brahman. Ceir rhai ysgolion mewn Hindwaeth sy'n addoli un duw un unig, er enghraifft Vishnu neu Shiva, er heb wadu bodolaeth y gweddill.
Coleddir undduwiaeth gan grefyddau megis Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Yn ôl y Qur'an, shirk (amldduwiaeth) yw'r pechod mwyaf.