Amldduwiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: nn:Polyteisme |
B robot yn ychwanegu: bat-smg:Puolėteėzmos |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
[[ar:تعدد الآلهة]] |
[[ar:تعدد الآلهة]] |
||
[[bat-smg:Puolėteėzmos]] |
|||
[[bg:Политеизъм]] |
[[bg:Политеизъм]] |
||
[[bs:Politeizam]] |
[[bs:Politeizam]] |
Fersiwn yn ôl 14:18, 9 Mai 2009
Amldduwiaeth yw'r gred mewn nifer o dduwiau a duwiesau, yn aml mewn pantheon. Yn aml mae mytholeg ynghlwm a'r duwiau, yn eu portreadu gyda chymeriadau a phriodoleddau gwahanol. Mewn rhai ffurfiau o amldduwiaeth, credir fod y duwiau a'r duwiesau i gyd yn wahanol agweddau ar un bod dwyfol.
Un enghraifft hanesyddol o amldduwiaeth yw Crefydd yr Hen Aifft, lle roedd nifer fawr o dduwiau a duwiesau, rhai yn cymeryd ffurfiau dynol ac eraill ffurfiau anifeiliaid. Rhai o'r prif dduwiau oedd Amon, Ra, Ptah, Isis ac Osiris. Ceir nifer fawr o dduwiau a duwiesau hefyd yng nghrefydd y Groegiaid, a chrefydd debyg y Rhufeiniaid; roedd gan y Celtiaid hefyd nifer fawr o dduwiau.
Ym aml, ceir yr un math o dduw neu ddiwies yn ymddangos mewn traddodiadau gwahanol:
Ymhlith crefyddau modern, Hindwaeth yw'r enghraifft amlycaf o amldduwiaeth. Ystyrir bod y dduwiau a duwiesau i gyd yn agweddau ar yr hanfod dwyfol Brahman. Ceir rhai ysgolion mewn Hindwaeth sy'n addoli un duw un unig, er enghraifft Vishnu neu Shiva, er heb wadu bodolaeth y gweddill.
Coleddir undduwiaeth gan grefyddau megis Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Yn ôl y Qur'an, shirk (amldduwiaeth) yw'r pechod mwyaf.