Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
cyfoes |
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau) sorto mas en |
||
Llinell 36: | Llinell 36: | ||
[[de:Mayday]] |
[[de:Mayday]] |
||
[[en: |
[[en:May Day]] |
||
[[id:Mayday]] |
[[id:Mayday]] |
||
[[nl:Mayday]] |
[[nl:Mayday]] |
Fersiwn yn ôl 02:12, 7 Mai 2009
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Hen ŵyl Geltaidd ydyw Calan Mai (neu Gŵyl Calan Mai neu'r hen enw yng Nghymru oedd Calan Haf) sef 1 Mai, y cyntaf o Fai. Gelwir hi hefyd Beltane, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Mae'r duw Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng Gŵyl Fair (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Yr oedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill.
Yn y Sanas Cormac dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.
Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.
Yn ôl y Mabinogi arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.
Traddodiadau
- Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel sumbol o dwf.
- Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.
- Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.
- Yfwyd medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a gwaseila.
Gweler hefyd:
Ffynonellau:
- Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.
- Duwiau'r Celtiaid gan Gwyn Thomas, Llafar Gwlad 24.