Philip yr Arab: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: cs:Philippus Arabs
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: mk:Филип Апапски
Llinell 52: Llinell 52:
[[ko:필리푸스 아라부스]]
[[ko:필리푸스 아라부스]]
[[la:Philippus Arabs]]
[[la:Philippus Arabs]]
[[mk:Филип Апапски]]
[[nl:Philippus I Arabs]]
[[nl:Philippus I Arabs]]
[[no:Filip Araberen]]
[[no:Filip Araberen]]

Fersiwn yn ôl 05:50, 2 Mawrth 2009

Philip yr Arab

Marcus Iulius Philippus (c.204 - 249), mwy adnabyddus fel Philip yr Arab neu Philip I, oedd ymerawdwr Rhufain o 244 hyd 249.

Dywed rhai ffynonellau fod Philip yn fab i sheic Bedouin. Yn ôl eraill ganed ef yn Shahba yn fab i Julio Marino, dinesydd Rhufeinig o darddiad bonheddig lleol. Priododd Rhilip a Marcia Octacilia Severa yn 238 a bu ganddynt un mab, Marcus Julius Severus Philipus, a ddaeth yn Philip II.

Ymmunodd Philip a'r fyddin a dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn gadfridog dan yr ymerawdwr Gordian III. Ef oedd pennaeth y llengoedd yn nhalaith Mesopotamia. Daeth Gordian i'r dwyrain i ymgyrchu yn erbyn y Persiaid oedd yn bygwth Mesopotamia. Pan fu farw Timisetus, pennaeth Gard y Praetoriwm, tad-yng-nghyfraith Gordian a'i brif gynghorydd, penodwyd Philip yn bennaeth y Praetoriaid yn ei le. Ymddengys i Philip gynllwynio yn erbyn Gordian a'i lofruddio yn 243. Cyhoeddwyd Philip yn ymerawdwr gan y llengoedd, ac wedi cytuno telerau heddwch a Sapor I, brenin Persia, aeth i Rufain lle cydnabuwyd ef yn ymerawdwr gan y Senedd. Cyhoeddodd ei fab Marcus Julius Severus Philipus fel Cesar.

Tua dechrau eu deyrnasiad bu ymosodiadau gan yr Almaenwyr ar ffiniau'r ymerodraeth. Ymosododd y Gothiaid ar Moesia (Bwlgaria heddiw) tros Afon Donaw. Erbyn 248 yr oeddynt wedi ei gyrru allan o Moesia, ond yr oedd y llengoedd yn anfodlon, efallai am nad oeddynt wedi derbyn tâl digonol am eu buddugoliaeth. Gwrthryfelasant, a chyhoeddi Tiberius Claudius Pacatianus yn ymeradwdwr. Gorchfygwyd y gwrthryfel, a phenododd Philip Decius yn rhaglaw y dalaith.

Yn Ebrill 248 dathlodd Philip fil-flwyddiant sefydlu dinas Rhufain gan Romulus gyda chwaraeon. Fodd bynnag yr oedd y milwyr ar ffin Afon Donaw yn fwy a mwy anfodlon, ac yn nechrau 249 cyhoeddasant Decius yn ymerawdwr. Cychwynodd ef tua Rhufain gyda'i fyddin, ac mewn brwydr gerllaw Verona gorfchfygwyd byddin Philip a lladdwyd yntau. Pan gyrhaeddodd y newyddion i Rufain, llofruddiwyd ei fab.

Awgryma rhai haneswyr mai Philip oedd yr ymerawdwr cyntaf i fod yn Gristion. Ond nid oes unrhyw brawf o hyn, er ei fod yn eu goddef.


O'i flaen :
Gordian III
Ymerodron Rhufain
Philip yr Arab
Olynydd :
Decius