Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
bedwen haf
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Maypole Sweden.jpg|bawd|dde|250px|[[Y Fedwen Fai]] neu'r Fedwen Haf]]
[[Delwedd:Maypole Sweden.jpg|bawd|dde|250px|[[Y Fedwen Fai]] neu'r Fedwen Haf]]
[[Delwedd:Maypoles.jpg|bawd|dde|250px|Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, [[Pennsylvania]]]]
[[Delwedd:Maypoles.jpg|bawd|dde|250px|Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, [[Pennsylvania]]]]
Hen ŵyl Geltaidd ydyw '''Calan Mai''' (neu '''Gŵyl Calan Mai''') sef 1 Mai, y cyntaf o Fai. Gelwir hi hefyd '''Beltane''', neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Mae'r duw [[Belenos]] ([[Beli Mawr]] i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng [[Gŵyl Fair]] (1 Chwefror) ac [[Alban Hefin]] (21 Mehefin).
Hen ŵyl Geltaidd ydyw '''Calan Mai''' (neu '''Gŵyl Calan Mai''' neu'r hen enw yng Nghymru oedd '''Calan Haf''') sef 1 Mai, y cyntaf o Fai. Gelwir hi hefyd '''Beltane''', neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Mae'r duw [[Belenos]] ([[Beli Mawr]] i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng [[Gŵyl Fair]] (1 Chwefror) ac [[Alban Hefin]] (21 Mehefin). Yr oedd [[dawnsio haf]] a [[Codi'r Fedwen|chodi'r fedwen]] (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill.


Yn y [[Sanas Cormac]] dywedir fod gan y [[derwydd]]on le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.
Yn y [[Sanas Cormac]] dywedir fod gan y [[derwydd]]on le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.

Fersiwn yn ôl 09:23, 21 Chwefror 2009

Y Fedwen Fai neu'r Fedwen Haf
Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, Pennsylvania

Hen ŵyl Geltaidd ydyw Calan Mai (neu Gŵyl Calan Mai neu'r hen enw yng Nghymru oedd Calan Haf) sef 1 Mai, y cyntaf o Fai. Gelwir hi hefyd Beltane, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Mae'r duw Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng Gŵyl Fair (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Yr oedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill.

Yn y Sanas Cormac dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.

Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.

Yn ôl y Mabinogi arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.

Traddodiadau

  • Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel sumbol o dwf.
  • Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.
  • Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.
  • Yfwyd medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl.

Gweler hefyd:

Ffynonellau:

  • Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.
  • Duwiau'r Celtiaid gan Gwyn Thomas, Llafar Gwlad 24.

Y Celtiaid