Cytsain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau) tabl |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
Y cytseiniau yn Gymraeg yw: |
Y cytseiniau yn Gymraeg yw: |
||
{| class="wikitable" |
|||
* ''b, c ch, d, dd, f, ff'' (yr un sain â ''ph''), ''g, ng, h, l, ll, m, n, p, ph'' (yr un sain ag ''ff''), ''r, rh, s, t, th.'' |
|||
| |
|||
! di-llais |
|||
! lleisiol |
|||
|- |
|||
! ffrithol |
|||
| <ch>=/x/, <ff> a <ph>=/f/, <h>=/h/,<br><ll>=/ɬ/, <nowiki><s></nowiki>=/s/, <nowiki><th></nowiki>=/θ/ |
|||
| <nowiki><dd></nowiki>=/ð/, <f>=/v/ |
|||
|- |
|||
! ffrwydrol |
|||
| <c>=/k/, <nowiki><p></nowiki>=/p/, <t>=/t/ |
|||
| <nowiki><b></nowiki>=/b/, <nowiki><d></nowiki>=/d/, <g>=/g/ |
|||
|- |
|||
! trwynol |
|||
| |
|||
| <ng>=/ŋ/, <m>=/m/, <n>=/n/ |
|||
|- |
|||
! eraill |
|||
| <rh>=/r̥/ |
|||
| <l>=/l/ <r>=/r/ |
|||
|} |
|||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
||
* [[Cytsain ddwywefusol]] |
* [[Cytsain ddwywefusol]] |
Fersiwn yn ôl 19:48, 26 Medi 2008
Sain a gynhyrchir drwy gau neu drwy gulhau llif yr awyr sy'n pasio allan o'r ysgyfaint ar hyd y llwybr lleisiol yw cytsain. Gan fod yna fwy o gytseiniaid yn ieithoedd y byd nag sydd yn yr wyddor Ladin neu mewn unrhyw ddull ysgrifennu arall, defnyddir symbolau'r Gymdeithas Seineg Ryngwladol (yr IPA) i'w dynodi. Yn draddodiadol, gwahaniaethir rhwng cytseiniaid ar sail nifer o nodweddion cynaniadol:
- dull cynanu: sut mae'r cytsain yn cael ei chynanu, ai drwy atal llif yr awyr yn llwyr i greu ffrwydrolion megis /p b t d k g/ neu drwy lesteirio llif yr awyr yn rhannol i greu ffritholion megis /f/ (Cymraeg ff), /v/ (Cymraeg f), /θ/ (Cymraeg th), /ð/ (Cymraeg dd) neu /x/ (Cymraeg ch)
- lle cynanu: lle ar hyd y llwybr lleisiol y digwydd y rhwystr. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu lle mae'r tafod yn ymgyffwrd â thaflod y genau
- os yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu fel y mae'r gytsain yn cael ei chynhyrchu, ceir cytsain leisiol megis /b d g v ð/; os nad yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu, ceir cytsain ddi-lais megis /p t k f θ/.
- amser dechrau lleisio
- dull y mae'r awyr yn llifo
- hyd y gytsain
Ceir hefyd cytseiniaid sy'n newid eu cynaniad fel y maen nhw'n cael eu cynhyrchu. Os yw cytsain yn dechrau gyda rhwystr llwyr yn y llwybr lleisiol sydd wedyn yn gwanhau i fod yn rhwystr rhannol yn ail ran y gytsain, ceir cytsain affrithol megis /tʃ/ (fel yn y gair Tsieina) neu /dʒ/ (fel yn jôc).
Gall fod yna fwy nag un cynaniad yn yr un gytsain. Cyfeirir at hyn fel cynaniad eilradd.
Y cytseiniau yn Gymraeg yw:
di-llais | lleisiol | |
---|---|---|
ffrithol | <ch>=/x/, <ff> a <ph>=/f/, <h>=/h/, <ll>=/ɬ/, <s>=/s/, <th>=/θ/ |
<dd>=/ð/, <f>=/v/ |
ffrwydrol | <c>=/k/, <p>=/p/, <t>=/t/ | <b>=/b/, <d>=/d/, <g>=/g/ |
trwynol | <ng>=/ŋ/, <m>=/m/, <n>=/n/ | |
eraill | <rh>=/r̥/ | <l>=/l/ <r>=/r/ |