Argae Aswan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ko:아스완 댐 |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ml:അസ്വാന് അണക്കെട്ട് |
||
Llinell 38: | Llinell 38: | ||
[[lt:Asuano užtvanka]] |
[[lt:Asuano užtvanka]] |
||
[[lv:Asuānas aizsprosts]] |
[[lv:Asuānas aizsprosts]] |
||
[[ml:അസ്വാന് അണക്കെട്ട്]] |
|||
[[mn:Асуаны далан]] |
[[mn:Асуаны далан]] |
||
[[mr:आस्वान धरण]] |
[[mr:आस्वान धरण]] |
Fersiwn yn ôl 19:12, 8 Awst 2008
Rhoddir yn enw Argae Aswan i ddau argae ar draws Afon Nîl gerllaw dinas Aswan yn yr Aifft. Yr argae hynaf yma yw Argae Isel Aswan; yr un diweddaraf ac enwocaf yw Argae Uchel Aswan (Arabeg: السد العالي).
Adeiladwyd y ddau argae i osgoi lligogydd ar yr afon, i gynhyrchu trydan ac i gael dŵr ar gyfer amaethyddiaeth. Adeiladwyd yr argae cyntaf rhwng 1899 a 1902, pan oedd yr Aifft yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd yn 1,900 m o hyd a 54 m o uchder, ond profiodd hyn yn annigonol ac ychwanegwyd at ei uchder yn 1907 - 1912 a 1929 - 1933.
Dechreuwyd cynllunio Argae Uchel Aswan yn 1952. Tua'r un adeg daeth Nasser i rym. Roedd yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig wedi addo $270 miliwn o gymorth at y costau, ond ataliwyd hyn yn 1956 oherwydd ei gwrthwynebiad i wleidyddiaeth Nasser. Yn 1958 cytunodd yr Undeb Sofietaidd i dalu am y cynllun yn eu lle. Dechreuwyd adeiladu'r argae yn 1960, a chafodd ei orffen ar 21 Gorffennaf, 1970. Dechreuodd Llyn Nasser ffurfio tu ôl i'r arfae yn 1964. Bu cydweithrediad rhwng nifer o wledydd wedi ei drefnu gan UNESCO i symud nifer o demlau a henebion eraill rhag iddynt gael eu boddi. Teml Abu Simbel yw'r enwocaf o'r rhain.
Mae'r argae yn 3,830 m o hyd a 111 m o uchder; ac yn cynnwys 43 miliwn m³ o ddeunydd. Gall hyd at 11,000 m³ o ddŵr yr eiliad lifo trosto. Mae Llyn Nasser yn 550 km o hyd a 35 km o led yn y man lletaf, gydag arwynebedd o 5,250 km².