Sarah Bernhardt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: bat-smg:Sarah Bernhardt, pam:Sarah Bernhardt |
B robot yn ychwanegu: ko:사라 베르나르 |
||
Llinell 45: | Llinell 45: | ||
[[it:Sarah Bernhardt]] |
[[it:Sarah Bernhardt]] |
||
[[ja:サラ・ベルナール]] |
[[ja:サラ・ベルナール]] |
||
[[ko:사라 베르나르]] |
|||
[[la:Sara Bernhardt]] |
[[la:Sara Bernhardt]] |
||
[[lb:Sarah Bernhardt]] |
[[lb:Sarah Bernhardt]] |
Fersiwn yn ôl 19:40, 4 Awst 2008
Actores Ffrengig oedd Sarah Bernhardt (22 Hydref, 1844 - 26 Mawrth, 1923). Daeth yn enwog trwy Ewrop yn y 1870au, ac ymledodd ei henwogrwydd i'r Unol Daleithiau hefyd.
Ganed hi yn ninas Paris fel Marie Henriette Bernardt, yn ferch i Julie Bernardt a thad oedd efallai o'r Iseldiroedd. Roedd ei thaid, Moritz Bernardt, yn fasnachwr Iddewig yn Amsterdam.
Dechreuodd acrio yn 1862 pan oedd yn astudio yn y Comédie-Française. Er mai actio ar y llwyfan yr oedd yn bennaf, gwnaeth nifer o recordiadau o ddialogau o ddramau; y cynharaf oedd darlleniad o Phèdre gan Jean Racine, yng nghartref Thomas Edison yn Efrog Newydd yn y 1880au. Roedd yn un o arloeswyr y ffilmiau distaw, gan berfformio mewn ffilm am y tro cyntaf fel Hamlet mewn ffilm ddau funud o hyd yn 1900.
Yn 1905, anafodd ei choes tra'n perfformio yn Rio de Janeiro, ac yn 1915 bu raid torri'r goes ymaith, ond parhaodd i berfformio. Bu farw yn 1923, a chladdwyd hi ym Mynwent Père Lachaise, Paris.
Llyfrau
- Dans les Nuages, Impressions d'une Chaise Charpentier (1878)
- L'Aveu, drame en un acte en prose (1888)
- Adrienne Lecouvreur, drame en six actes (1907)
- Ma Double Vie (1907)
- Un Coeur d'Homme, pièce en quatre actes (1911)
- Petite Idole (1920)
- L'Art du Théâtre: la voix, le geste, la prononciation, etc.