Maredudd ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
iw ca
BOTarate (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: en:Maredudd ab Owain
Llinell 18: Llinell 18:


[[ca:Maredudd ap Owain]]
[[ca:Maredudd ap Owain]]
[[en:Maredudd ap Owain]]
[[en:Maredudd ab Owain]]
[[fr:Maredudd ab Owain]]
[[fr:Maredudd ab Owain]]
[[it:Maredudd ab Owain]]
[[it:Maredudd ab Owain]]

Fersiwn yn ôl 12:18, 7 Gorffennaf 2008

Roedd Maredudd ab Owain (bu farw 999) yn frenin Gwynedd a Deheubarth.

Roedd Maredydd yn fab i Owain ap Hywel Dda, brenin Deheubarth. Pan aeth Owain yn rhy hen i arwain mewn brwydr, cymerodd Maredydd ei le, ac yn 986 llwyddodd i gipio Gwynedd o ddwylo Cadwallon ab Ieuaf. Yr oedd Gwynedd wedi bod yn rhan o derynas ei daid, Hywel Dda ac mae'n debyg fod y teulu yn parhau i'w hawlio. Ar farwolaeth Owain yn 988 daeth Maredydd yn frenin Deheubarth hefyd. Efallai fod y cyfan o Gymru heblaw Gwent a Morgannwg yn rhan o'i deyrnas.

Mae cofnod amdano yn ymosod ar safleoedd gwŷr Mercia ar hyd y ffin a chofnodir hefyd ei fod wedi talu pris o geiniog y pen i ryddhau nifer o'i ddeiliaid oedd wedi eu cymeryd yn garcharorion yn ymosodiadau'r Llychlynwyr. Yr oedd ymosodiadau y Daniaid yn broblem barhaus yn ystod teyrnasiad Maredydd. Yn 987 ymosododd y Daniad Godfrey Haroldson ar Ynys Môn gan ladd mil o wŷr a dwyn dwy fil ymaith yn garcharorion.

Bu Maredudd farw yn 999 ac mae'n cael ei ddisgrifio ym Mrut y Tywysogion fel "brenin enwocaf y Brythoniaid". Yn dilyn ei farwolaeth enillwyd gorsedd Gwynedd yn ôl i linach Idwal Foel gan Cynan ap Hywel.

Cyfeiriadau

  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)