Diglosia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 14: Llinell 14:
== Gweler hefyd ==
== Gweler hefyd ==
[[Newid cod]] - ble mae'r un person yn defnyddio dwy iaith yn yr un sgwrs.
[[Newid cod]] - ble mae'r un person yn defnyddio dwy iaith yn yr un sgwrs.

[[Cywair Iaith]] - amrywiaethau yr un iaith yn ôl y cyd-destunau.


== Ffynonellau ==
== Ffynonellau ==

Fersiwn yn ôl 14:15, 21 Awst 2017

Mewn ieithyddiaeth mae diglosia yn derm ar gyfer y defnydd o ddwy iaith (neu ddau fersiwn o’r un iaith) o fewn yr un gymuned - ac mynd o'r naill i'r llall yn ôl y sefyllfa.

Mewn llawer o enghreifftiau o ddiglosia mae siaradwr yn newid o iaith lafar pob dydd i fath arall o iaith ar gyfer sefyllfaoedd mwy ffurfiol.

Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'

Mae’r iaith lafar pob dydd yn cael ei dynodi fel yr iaith "L" (o’r gair Saesneg "low"). Fel arfer mae’r iaith "L" yn cael ei defnyddio yn y cartref ac ymhlith cymdogion, cyd-weithwyr etc.

Mae’r iaith "H" (o’r Saesneg "high") yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol fel addysg, ysgrifennu neu ddelio gydag awdurdodau a phobl mewn awdurdod.

Mae diglosia yn bodoli'n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, fel arfer mae pobl Tsieina yn siarad eu tafodiaith leol fel yr iaith "L" gan newid i'r iaith "H" - Mandarin ar gyfer llythrennedd.

Yn yr un modd mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio Cymraeg llafar yn eu tafodiaith leol ymhlith ei gilydd gan newid i Gymraeg lenyddol neu Saesneg ar gyfer ysgrifennu a darllen.

Gweler hefyd

Newid cod - ble mae'r un person yn defnyddio dwy iaith yn yr un sgwrs.

Cywair Iaith - amrywiaethau yr un iaith yn ôl y cyd-destunau.

Ffynonellau