Tennyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
cyf |
ligament hefyd yng Ngeiriadur yr Academi |
||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
:''Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler [[tendon]].'' |
:''Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler [[tendon]].'' |
||
Mae '''tennyn''' |
Mae '''tennyn''', '''gewyn''' neu '''ligament''', mewn [[anatomeg]], yn cyfeirio at dri math o strwythur o fewn y corff: |
||
# [[Meinwe gyswllt]] ffibrog sy'n cysylltu [[asgwrn|esgyrn]] ag esgyrn eraill. Gelwir weithiau yn "dennyn cymalol", "tennyn ffibrog", neu "gwir dennynau". |
# [[Meinwe gyswllt]] ffibrog sy'n cysylltu [[asgwrn|esgyrn]] ag esgyrn eraill. Gelwir weithiau yn "dennyn cymalol", "tennyn ffibrog", neu "gwir dennynau". |
||
# Plyg y [[peritonewm]] neu bilen arall. |
# Plyg y [[peritonewm]] neu bilen arall. |
||
# Gweddillion y system tiwbaidd o'r cyfnod [[ffoetws|ffoetaidd]] o fywyd. |
# Gweddillion y system tiwbaidd o'r cyfnod [[ffoetws|ffoetaidd]] o fywyd. |
||
Y math cyntaf yw'r un a gyfeirir ato gan amlaf gyda'r term tennyn. |
Y math cyntaf yw'r un a gyfeirir ato gan amlaf gyda'r term 'tennyn'. |
||
'''Desmoloeg''' yw'r enw am yr asudiaeth o dennynau, daw o'r [[Hen Roeg (iaith)|Hen Roeg]] {{lang|grc|δεσμός}}, ''desmos'', "tant" neu "llinyn"; a {{lang|grc|-λογία}}, ''-logia''. |
'''Desmoloeg''' yw'r enw am yr asudiaeth o dennynau, daw o'r [[Hen Roeg (iaith)|Hen Roeg]] {{lang|grc|δεσμός}}, ''desmos'', "tant" neu "llinyn"; a {{lang|grc|-λογία}}, ''-logia''. |
Fersiwn yn ôl 06:14, 11 Awst 2017
Ligament | |
---|---|
Diagram o'r pen-glin (ochr dde). | |
Cymal | |
Manylion | |
Dynodwyr | |
Lladin | Ligamentum (Plural: Ligamenta) |
TA | A03.0.00.034 |
FMA | 30319 |
Anatomeg |
- Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler tendon.
Mae tennyn, gewyn neu ligament, mewn anatomeg, yn cyfeirio at dri math o strwythur o fewn y corff:
- Meinwe gyswllt ffibrog sy'n cysylltu esgyrn ag esgyrn eraill. Gelwir weithiau yn "dennyn cymalol", "tennyn ffibrog", neu "gwir dennynau".
- Plyg y peritonewm neu bilen arall.
- Gweddillion y system tiwbaidd o'r cyfnod ffoetaidd o fywyd.
Y math cyntaf yw'r un a gyfeirir ato gan amlaf gyda'r term 'tennyn'.
Desmoloeg yw'r enw am yr asudiaeth o dennynau, daw o'r Hen Roeg δεσμός, desmos, "tant" neu "llinyn"; a -λογία, -logia.
Tennynau peritonewm
Cyfeirir at rhai o blygiau'r peritonewm fel tennynau.
Mae esiamplau yn cynnwys:
- Y tennyn hepatoduodenal, sy'n amgylchynu'r gwythïen porth hepatig a llestri eraill fel maent yn teithio o'r dwodenwm i'r iau.
- Mae tennyn llydan y groth hefyd yn blyg yn y peritonewm.
- Tennyn cynhaliol yr ofari
Tennyn gweddill ffoetaidd
Cyfeirir at rhai strwythrau tiwbaidd sy'n weddill o'r cyfnod ffoetaidd fel tennynau ar ôl iddynt gau a throi i mewn i drwythrau tebyg i linyn:
Ffoetws | Oedolyn |
ductus arteriosus | ligamentum arteriosum |
Rhan rhagorol-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws | ligamentum teres hepatis ("tennyn crwn yr iau"). |
Rhan mewn-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws (y ductus venosus) | ligamentum venosum |
Rhannau distal rhydweli wmbilig chwith a dde y ffoetws | medial umbilical ligaments |
Tennyn cymalol
Yn y ffurf a gyfeirir ato gan amlaf, rhwymyn byr o meiwe gysylltol rheolaidd dwys sy'n galed a ffibrog yw tennyn . Cyfansoddir yn bennaf o ffibrau hir llinynnog colagen. Mae tennynau'n cysylltu esgyrn at esgyrn eraill i ffurfio cymal. (Nid ydynt yn cysylltu cyhyrau â'r esgyrn, tendonnau sy'n gwneud hyn.) Mae rhai tennynau'n cyfyngu rhai symudiadau, neu'n atal eraill yn gyfan gwbl.