Allectus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →top: clean up |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{infobox person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl dinasyddiaeth | dateformat = dmy }} |
|||
[[Delwedd:Quinarius Allectus galley-RIC 0128.2.jpg|bawd|300px|Darn arian yn dwyn delw Allectus, gyda llong ar y cefn]] |
|||
Roedd '''Allectus''' (bu farw [[296]]) yn uchel-swyddog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain o [[293]] hyd ei farwolaeth. |
Roedd '''Allectus''' (bu farw [[296]]) yn uchel-swyddog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain o [[293]] hyd ei farwolaeth. |
||
Fersiwn yn ôl 10:42, 27 Gorffennaf 2017
Allectus | |
---|---|
Ganwyd | c. 3 g |
Bu farw | 296 Britannia |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | ymerawdwr Rhufain |
Roedd Allectus (bu farw 296) yn uchel-swyddog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain o 293 hyd ei farwolaeth.
Gweithredai Allectus fel gweinidog cyllid i Carausius, oedd wedi cipio grym ym Mhrydain a rhan o Gâl am rai blynyddoedd. Yn 293 llwyddodd Constantius Chlorus, y Cesar yn y gorllewin, i gymeryd gogledd Gâl oddi wrtho a'i had-uno a'r ymerodraeth. Yr un flwyddyn llofruddiwyd Carausius gan Allectus, a ddaeth yn rheolwr Prydain yn ei le.
Ymosododd Constantius arni ym mis Medi 296. Ymddengys i lynges Constantius ei hun gael ei hatal rhag glanio gan y tywydd am gyfnod, ond glaniodd rhan arall o'r llynges dan Asclepiodotus. Gorchfygwyd Allectus mewn brwydr, efallai ger Calleva Atrebatum (Silchester heddiw), a lladdwyd ef.
Ceir cyfeiriad at Allectus yn "hanes" Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae.