Canu Heledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Cysylltiad allanol: cat |
B llyfr |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
* [[Ifor Williams]] (gol.) ''Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935) |
* [[Ifor Williams]] (gol.) ''Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935) |
||
* Jenny Rowland (gol.), ''Early Welsh Saga Poetry'' (Caerdydd, 1990) |
|||
==Cysylltiad allanol== |
==Cysylltiad allanol== |
Fersiwn yn ôl 18:20, 14 Mawrth 2008
Cyfres o englynion saga yn dyddio o'r 9fed neu'r 10fed ganrif yw Canu Heledd. Y siaradwr yn yr englynion yw Heledd, chwaer Cynddylan, brenin rhan ddwyreiniol Teyrnas Powys yn y 7fed ganrif.
Mae Cynddylan, a gysylltir Cynddylan a llys Pengwern, wedi ei ladd (wrth frwydro yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn ôl pob tebyg), a'i lys yn wag a thywyll. Crwydra Heledd gan alaru:
- stauell gyndylan ys tywyll heno,
- heb dan, heb wely.
- wylaf wers; tawaf wedy.
Disgrifia ddau eryr, eryr Eli ac Eryr Pengwern, yn bwydo ar gyrff y lladedigion:
- eryr penngwern pengarn llwyt [heno]
- aruchel y adaf,
- eidic am gic a garaf.
Cyhoeddwyd yr argraffiad safonol o'r farddoniaeth yma gan Syr Ifor Williams yn 1935. Mae'r nofelwraig Rhiannon Davies-Jones wedi ysgrifennu nofel am hanes Cynddylan, Heledd a Pengwern, o'r enw Eryr Pengwern.
Llyfryddiaeth
- Ifor Williams (gol.) Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)
- Jenny Rowland (gol.), Early Welsh Saga Poetry (Caerdydd, 1990)