Canu Heledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
→Cysylltiad allanol: cat |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
[[Categori:Canu'r Bwlch]] |
|||
[[Categori:Hanes Cymru]] |
[[Categori:Hanes Cymru]] |
||
[[Categori:Teyrnas Powys]] |
[[Categori:Teyrnas Powys]] |
Fersiwn yn ôl 23:47, 12 Mawrth 2008
Cyfres o englynion saga yn dyddio o'r 9fed neu'r 10fed ganrif yw Canu Heledd. Y siaradwr yn yr englynion yw Heledd, chwaer Cynddylan, brenin rhan ddwyreiniol Teyrnas Powys yn y 7fed ganrif.
Mae Cynddylan, a gysylltir Cynddylan a llys Pengwern, wedi ei ladd (wrth frwydro yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn ôl pob tebyg), a'i lys yn wag a thywyll. Crwydra Heledd gan alaru:
- stauell gyndylan ys tywyll heno,
- heb dan, heb wely.
- wylaf wers; tawaf wedy.
Disgrifia ddau eryr, eryr Eli ac Eryr Pengwern, yn bwydo ar gyrff y lladedigion:
- eryr penngwern pengarn llwyt [heno]
- aruchel y adaf,
- eidic am gic a garaf.
Cyhoeddwyd yr argraffiad safonol o'r farddoniaeth yma gan Syr Ifor Williams yn 1935. Mae'r nofelwraig Rhiannon Davies-Jones wedi ysgrifennu nofel am hanes Cynddylan, Heledd a Pengwern, o'r enw Eryr Pengwern.
Llyfryddiaeth
- Ifor Williams (gol.) Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)