Brân dyddyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: ca:Cornella |
||
Llinell 33: | Llinell 33: | ||
[[an:Cuerba]] |
[[an:Cuerba]] |
||
[[bg:Черна врана]] |
[[bg:Черна врана]] |
||
[[ca:Cornella]] |
|||
[[cs:Vrána obecná]] |
[[cs:Vrána obecná]] |
||
[[da:Krage]] |
[[da:Krage]] |
Fersiwn yn ôl 20:12, 25 Chwefror 2008
Brân Dyddyn | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
| ||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Corvus corone Linnaeus, 1758 |
Mae'r Frân Dyddyn (Corvus corone) yn aelod o deulu'r brain. Mae un is-rywogaeth, C. c. corone yn nythu yng ngorllewin a chanol Ewrop ac is-rywogaeth arall, C. c. orientalis, yn nythu yn nwyrain Asia.
Gall fod yn anodd gwahaniaethu rheng y Frân Dyddyn ac aelodau eraill o deulu'r brain sydd hefyd yn ddu i gyd. Mae'n aderyn tipyn llai na'r Gigfran, 48 - 52 cm o hyd,ac mae pig y Frân Dyddyn yn deneuach na phig y Gigfran. Mae'r Ydfran yn fwy tebyg i'r Frân Dyddyn o ran maint, ond gellir gwahaniaethu'r oedolion gan fod darn moel heb blu arno o gwmpas y ffroenau yn yr Ydfran, tra mae'r plu yn dod yr holl ffordd at y pig yn y Frân Dyddyn. Yr adar ieuanc yw'r anoddaf i'w gwahaniaethu, gan fod pig Ydfran ieuanc yr un fath â'r Frân Dyddyn; y gwahaniaeth mwyaf defnyddion yw fod gan yr Ydfran fwy o "dalcen". Mae'r Ydfran fel rheol yn fwy parod i ffurfio heidiau na'r Frân Dyddyn.
Mae'r Frân Dyddyn yn bwyta bron unrhyw beth sydd ar gael, yn cynnwys anifeiliaid wedi marw ac wyau adar eraill. Adeiledir y nyth mewn coed neu anbell dro ar glogwyni, gan ddodwy 4 - 5 wy.