Afon Cleddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Cleddau Wen: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB |
B Cywiro camdeipio |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Milford Haven Harbour.jpg|250px|bawd|Afon Cleddau yn harbwr [[Aberdaugleddau]].]] |
[[Delwedd:Milford Haven Harbour.jpg|250px|bawd|Afon Cleddau yn harbwr [[Aberdaugleddau]].]] |
||
Afon yn ne [[Sir Benfro]] yw '''Afon Cleddau'''. Mae dwy afon Cleddau: Afon Cleddau Wen yn y gorllewin ac afon Cleddau Ddu yn y dwyrain. |
Afon yn ne [[Sir Benfro]] yw '''Afon Cleddau'''. Mae dwy afon Cleddau: Afon Cleddau Wen yn y gorllewin ac afon Cleddau Ddu yn y dwyrain. Ymunant a'i gilydd i ffurfio aber Daugleddau, sy'n rhoi ei enw i borthladd pwysig [[Aberdaugleddau]] (mewn canlyniad cyfeirir at yr afon ei hun fel '''afon Daugleddau''' weithiau). |
||
==Cleddau Wen== |
==Cleddau Wen== |
Fersiwn yn ôl 18:36, 17 Mehefin 2017
Afon yn ne Sir Benfro yw Afon Cleddau. Mae dwy afon Cleddau: Afon Cleddau Wen yn y gorllewin ac afon Cleddau Ddu yn y dwyrain. Ymunant a'i gilydd i ffurfio aber Daugleddau, sy'n rhoi ei enw i borthladd pwysig Aberdaugleddau (mewn canlyniad cyfeirir at yr afon ei hun fel afon Daugleddau weithiau).
Cleddau Wen
- Prif: Afon Cleddau Wen
Ceir dwy ran i Afon Cleddau Wen (ffurf amgen: Cleddy Wen). Tardda'r rhan ddwyreiniol yn Llygad Cleddau ym mhlwyf Llanfair Nant y Gôf, 4 km i'r de-ddwyrain o Abergwaun. Llifa tua'r de-orllewin heibio Scleddau. Tardda'r gangen orllewinol ym Mhenysgwarne ym mhlwyf Llanreithan, a llifa tua'r dwyrain i ymuno a'r gangen arall. Llifa'r Cleddau Wen trwy Gas-blaidd i Hwlffordd, lle ceir effaith y llanw.
Cleddau Ddu
- Prif: Afon Cleddau Ddu
Tardda Afon Cleddau Ddu (ffurf amgen: Cleddy Ddu) ar lethrau Mynydd Preselau ym Mlaencleddau ym mhlwyf Mynachlog-ddu, a llifa tua'r de-orllewin heibio Llawhaden. Gwelir effaith o llanw ger Pont Canaston. Ymuna a'r afon Cleddau Wen ym Mhwynt Picton.
Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol da; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma.