Wicidata: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
yr enw sy'n cael ei ddefnyddio heddiw |
|||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
||
:[[:Cymorth:Wicidata]] - geirfa |
|||
*[[Wiciadur]] |
*[[Wiciadur]] |
||
*[[Wiciddyfynu]] |
*[[Wiciddyfynu]] |
Fersiwn yn ôl 13:14, 16 Mehefin 2017
Hafan Wicidata | |
URL | www.wikidata.org |
---|---|
Masnachol? | Nag ydy |
Ieithoedd | Amlieithog |
Perchennog | Wikimedia Foundation |
Crewyd gan | Cymuned Wicifryngau |
Laniswyd | 30 Hydref 2012 |
Prosiect cydweithredol, byd-eang ydy Wicidata gan gymuned Wicimedia (neu Wicifryngau); fe'i bwriedir i ganoli data ar gyfer prosiectau megis Wicipedia,[1] fel a wneir gyda Comin Wicimedia. Mae'r cynnwys, fel gyda gweddill y teulu "Wici" wedi'i drwyddedu ar ffurf cynnwys rhydd, agored tebyg i'r CC-BY-SA a ddefnyddir ar y wici hwn.
Y defnydd ar y Wicipedia Cymraeg
Cafodd ei lansio ar 30 Hydref 2012 ac ar 21 Chwefror y flwyddyn honno fe'i gwelwyd oddi fewn i'r Wicipedia Cymraeg pan ddechreuwyd canoli'r dolennau ieithoedd. Y bwriad gwreiddiol oedd cadw data ffeithiol nad yw'n newid (e.e. hyd afon neu ddyddiad geni) yn ganolog, gyda'r wybodaeth honno'n cael ei galw'n otomatig i wybodlenni a phrosiectau eraill Wicimedia.
Ar 19 Tachwedd 2015, ychwanegwyd rhestr o baentiadau ar y ddalen Rhestr o luniau gan Jacob van Ruisdael, a oedd yn defnyddio'r "Nodyn:Wikidata list" i alw'r data o gronfa ddata Wicidata i'r dudalen ar Wicipedia. Ym Mehefin 2016 crewyd rhestr o eglwysi a enwyd ar ôl Beuno, ac erbyn Hydref y flwyddyn honno crewyd 9,500 o restri Wicidata ar ar adar. Yng Ngorffennaf 2016 galluogwyd Gwybodlen gyfan a oedd yn tynnu data o Wicidata: Telesgop Pegwn y De. Erbyn Rhagfyr 2016 roedd gan cy-wici dair gwaith mwy o restri Wicidata na phob Wicipedia arall (dros 290 o ieithoedd) gyda'i gilydd.
Gweler hefyd
- Cymorth:Wicidata - geirfa
Cyfeiriadau
- ↑ "Data Revolution for Wikipedia". Wikimedia Deutschland. March 30, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 11, 2012. Cyrchwyd September 11, 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)