Y Tŷ Gwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
B cat
Llinell 15: Llinell 15:
*{{eicon en}} [http://www.whitehousehistory.org Hanes y Tŷ Gwyn]
*{{eicon en}} [http://www.whitehousehistory.org Hanes y Tŷ Gwyn]


{{DEFAULTSORT:Ty Gwyn}}
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yn Washington, D.C.]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yn Washington, D.C.]]
[[Categori:Llywodraeth yr Unol Daleithiau]]
[[Categori:Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau]]

Fersiwn yn ôl 14:34, 30 Mai 2017

Blaen y Tŷ Gwyn

Cartref swyddogol a phrif weithle Arlywydd yr Unol Daleithiau yw'r Tŷ Gwyn (Saesneg: The White House). Lleolir y Tŷ Gwyn yn 1600 Pennsylvania Avenue NW, Washington, DC, ac fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Gwyddelig James Hoban.[1] Mae e wedi bod yn gartref i bob Arlywydd yr Unol Daleithiau heblaw arlywyddiaeth John Adams.

Ym 1814, yn ystod Rhyfel 1812, cyneuwyd y plas gan y Fyddin Brydeinig, yn dinistrio'r tu mewn i'r Tŷ ac yn golosgi llawer o'r tu allan. Dechreuwyd ailadeiladu bron yn syth, a symudodd yr Arlywydd James Monroe i mewn i'r tŷ, roedd yn rhannol wedi'i ailadeiladu ar y pryd, ym mis Hydref 1817. Aeth adeiladu yn bellach gydag ychwanegu Portico'r De ym 1824, a Phortico'r Gogledd ym 1829. Oherwydd nid oedd dim llawer o le ar gael o fewn y plas ei hun, symudodd yr Arlywydd Theodore Roosevelt bron yr holl swyddfeydd gweithio i Adain Chwith yr adeilad ym 1901. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ehangodd yr Arlywydd William Howard Taft yr Adain Chwith, a chreodd y Swyddfa Hirgrwn cyntaf.

Heddiw, mae Cyfadeilad y Tŷ Gwyn yn cynnwys Preswylfa'r Adran Weithredol, yr Adain Chwith, Ystafell y Cabinet, Ystafell Roosevelt, Adain y Dwyrain, ac Adeilad yr Hen Swyddfa'r Gweithredwr, sydd yn gartref i swyddfeydd gweithredol yr Arlywydd ac Is-Lywydd.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: