Llychlynwyr yng Ngalisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g, 11eg ganrif11g, 10fed ganrif10g, 9fed ganrif9g, 8fed ganrif8g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 12: Llinell 12:
Yn [[diwylliant|ddiwylliannol]] ac yn [[economi|economaidd]], cysylltwyd [[Gorllewin Ewrop]] gan lwybr morwrol a alwyd gan y Llychlynwyr yn ''Vestvegr'' (tebyg i 'west way' yn Saesneg) a fu cyn hynny'n llwybr pwysig yn natblygiad y [[Celtiaid]]. Roedd Brenhiniaeth Galisia hanner ffordd rhwng gogledd a de'r llwybr hwn: rhwng [[Cefnfor yr Iwerydd]] a'r [[Y Môr Canoldir|Môr Canoldir]] a thrwyddi yr hwyliodd yr holl fasnachu rhwng [[Portiwgal]], De Sbaen ac [[Ynys Prydain]] ac Iwerddon. Dyma bwysigrwydd Galisia, felly, i'r Llychlynwyr (a'r Normaniaid), fel y Celtiaid cyn hynny.

Mae'r cofnod cyntaf o ymosodiadau'r Llychlwynwyr i'w ganfod yn yr ''Annales Bertiniani'', yn Awst 844 pan hwyliodd eu cychod i fyny aber [[Afon Garonne]] (sydd heddiw yn [[Ffrainc]]) ac i Galisia gan ddod i'r lan yn ardal Farum Brecantium. Rheibiwyd sawl pentref ac eglwys ar y ffordd, mae'n debyg. Yna, wedi brwydr fawr aethant ymlaen i'r dref a elwir heddiw yn [[Lisbon]]. Ychydig wedi hynny, ceir chwedl am yr Esgob Gonzalo Bretoña a welodd gychod y Llychlynwyr yn dod yn nes, ac a weddiodd i'r nef am gymorth. Boddwyd y rhan fwyaf o'r cychod gan storm enfawr, yn ôl yr hanes.

Dros y canrifoedd, dioddefodd yr ardal yn enbyd gan ymosodiadau Sgandinafaidd, a cheir sawl gwyl a cherflun i gofio'r cysylltiad hwn yn ogystal a hen greiriau. Yr wyl fwyaf yw honno yn [[Catoira]] a gynhelir ar y Sul cyntaf yn Awst.<ref>[http://www.donquijote.org/culture/spain/society/holidays/viking-festival-galicia www.donquijote.org;] adalwyd 16 Mehefin 2015</ref>Credir hefyd i nifer ohonynt aros yn yr ardal, gan briodi i mewn i'r teuluoedd Celtaidd, brodorol.<ref>[http://www.abdn.ac.uk/news/7184/ Prifysgol Aberdeen]; adalwyd 16 Mehefin 2015</ref>
Dros y canrifoedd, dioddefodd yr ardal yn enbyd gan ymosodiadau Sgandinafaidd, a cheir sawl gwyl a cherflun i gofio'r cysylltiad hwn yn ogystal a hen greiriau. Yr wyl fwyaf yw honno yn [[Catoira]] a gynhelir ar y Sul cyntaf yn Awst.<ref>[http://www.donquijote.org/culture/spain/society/holidays/viking-festival-galicia www.donquijote.org;] adalwyd 16 Mehefin 2015</ref> Credir hefyd i nifer ohonynt aros yn yr ardal, gan briodi i mewn i'r teuluoedd Celtaidd, brodorol.<ref>[http://www.abdn.ac.uk/news/7184/ Prifysgol Aberdeen]; adalwyd 16 Mehefin 2015</ref>

Un o'u cyrchfannau oedd ''Jakobsland'', a adnabyddir heddiw fel [[Santiago de Compostela]], a oedd, yn ôl y sôn yn llifeirio o aur ac arian. Gelwir Catoira hyd heddiw yn 'yr allwedd i Galisia', ac er mwyn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Santiago, roedd yn rhaid pasio caer gref Catoira. Gefeilliwyd Catoira gyda Frederikssund, [[Denmarc]] er mwyn cadarnhau'r cysylltiad Sgandinafaidd.

Fersiwn yn ôl 13:02, 13 Mawrth 2017

Map yn dangos ymestyniad y Sgandinafiaid yn:
     yr 8g      y 9g      y 10g      yr 11g      - sy'n dynodi ardaloedd a ddioddefodd llawer o ymosodiadau achlysurol gan y Llychlwynwyr Sgandinafaidd, er na wnaethant wladychu yno.

Cafwyd ymosodiadau gan y Llychlynwyr ar Galasia rhwng y 9fed a'r 12g ac roedd Galisia'n allweddol yn ymgyrch y Llychlynwyr Sgandinafaidd i fasnachu, rheibio a lladrata yn arfordiroedd Portiwgal a De Sbaen.[1]

Yn ddiwylliannol ac yn economaidd, cysylltwyd Gorllewin Ewrop gan lwybr morwrol a alwyd gan y Llychlynwyr yn Vestvegr (tebyg i 'west way' yn Saesneg) a fu cyn hynny'n llwybr pwysig yn natblygiad y Celtiaid. Roedd Brenhiniaeth Galisia hanner ffordd rhwng gogledd a de'r llwybr hwn: rhwng Cefnfor yr Iwerydd a'r Môr Canoldir a thrwyddi yr hwyliodd yr holl fasnachu rhwng Portiwgal, De Sbaen ac Ynys Prydain ac Iwerddon. Dyma bwysigrwydd Galisia, felly, i'r Llychlynwyr (a'r Normaniaid), fel y Celtiaid cyn hynny.

Mae'r cofnod cyntaf o ymosodiadau'r Llychlwynwyr i'w ganfod yn yr Annales Bertiniani, yn Awst 844 pan hwyliodd eu cychod i fyny aber Afon Garonne (sydd heddiw yn Ffrainc) ac i Galisia gan ddod i'r lan yn ardal Farum Brecantium. Rheibiwyd sawl pentref ac eglwys ar y ffordd, mae'n debyg. Yna, wedi brwydr fawr aethant ymlaen i'r dref a elwir heddiw yn Lisbon. Ychydig wedi hynny, ceir chwedl am yr Esgob Gonzalo Bretoña a welodd gychod y Llychlynwyr yn dod yn nes, ac a weddiodd i'r nef am gymorth. Boddwyd y rhan fwyaf o'r cychod gan storm enfawr, yn ôl yr hanes.

Dros y canrifoedd, dioddefodd yr ardal yn enbyd gan ymosodiadau Sgandinafaidd, a cheir sawl gwyl a cherflun i gofio'r cysylltiad hwn yn ogystal a hen greiriau. Yr wyl fwyaf yw honno yn Catoira a gynhelir ar y Sul cyntaf yn Awst.[2] Credir hefyd i nifer ohonynt aros yn yr ardal, gan briodi i mewn i'r teuluoedd Celtaidd, brodorol.[3]

Un o'u cyrchfannau oedd Jakobsland, a adnabyddir heddiw fel Santiago de Compostela, a oedd, yn ôl y sôn yn llifeirio o aur ac arian. Gelwir Catoira hyd heddiw yn 'yr allwedd i Galisia', ac er mwyn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Santiago, roedd yn rhaid pasio caer gref Catoira. Gefeilliwyd Catoira gyda Frederikssund, Denmarc er mwyn cadarnhau'r cysylltiad Sgandinafaidd.

Cyfeiriadau

  1. Tamén denominados normandos ou lordimani, nos documentos galegos da época das vagas.
  2. www.donquijote.org; adalwyd 16 Mehefin 2015
  3. Prifysgol Aberdeen; adalwyd 16 Mehefin 2015