Mysgedwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
KLBot2 (sgwrs | cyfraniadau) |
B canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[ |
[[Delwedd:Jacob de Gheyn - Wapenhandelinge 4.jpg|bawd|dde|250px|Mysgedwr o'r [[Iseldiroedd]] gan [[Jacob de Gheyn II|Jacob van Gheyn]] yn 1608.]] |
||
Math o filwr troed (neu ''inffantri'') yw '''mysgedwr''' a chanddo fysged, sy'n rhoi iddo'i enw. Roeddent yn rhan bwysig o bob [[byddin]] gwerth ei halen drwy [[Ewrop]] ar ddiwedd yr [[Oesoedd Canol]] hyd at ganol yr 17fed ganrif pan ffafriwyd y [[reiffl]] fel gwn. Ar adegau roedd gan y mysgedwr geffyl (fel y dragŵn neu'r cafalri). Arferai [[Byddin Imperialaidd yr Almaen]] ddefnyddio'r enw yma hyd at y [[Rhyfel Mawr]]. |

Llinell 5: | Llinell 5: | ||
==Y cyfnod cynnar== |
==Y cyfnod cynnar== |
||
[[Image:Ming musketeers.jpg| |
[[Image:Ming musketeers.jpg|bawd|chwith|Mysgedwyr yn Tseina yn ystod y [[Brenhinllin Ming]] o'r 14eg ganrif.]] |
||
Mae'n bur debygol mai'r wlad gyntaf i ddefnyddio mysgedwyr, oedd [[Tseina]] ar gychwyn y 14eg ganrif ac o bosib cyn hynny. Yn sicr roeddent yn rhan hanfodol o'r fyddin yn ystod y [[Brenhinllin Ming]] (1368–1644) a'r [[Brenhinllin Qing]] (1644–1911). Ceir llyfr o'r 14eg ganrif sy'n disgrifio'r ddyfais ''matchlock'' yn Tseina.<ref name="needham volume 5 part 7 447 454">Needham, Cyfrol 5, Rhan 7, 447-454.</ref> |

Fersiwn yn ôl 01:09, 9 Ionawr 2017
Math o filwr troed (neu inffantri) yw mysgedwr a chanddo fysged, sy'n rhoi iddo'i enw. Roeddent yn rhan bwysig o bob byddin gwerth ei halen drwy Ewrop ar ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd at ganol yr 17fed ganrif pan ffafriwyd y reiffl fel gwn. Ar adegau roedd gan y mysgedwr geffyl (fel y dragŵn neu'r cafalri). Arferai Byddin Imperialaidd yr Almaen ddefnyddio'r enw yma hyd at y Rhyfel Mawr.
Addaswyd Les trois mousquetaires (Y Tri Mysgedwr) gan Alexandre Dumas i'r Gymraeg gan J.E.B. Jones (Hughes, 1965).
Y cyfnod cynnar
Mae'n bur debygol mai'r wlad gyntaf i ddefnyddio mysgedwyr, oedd Tseina ar gychwyn y 14eg ganrif ac o bosib cyn hynny. Yn sicr roeddent yn rhan hanfodol o'r fyddin yn ystod y Brenhinllin Ming (1368–1644) a'r Brenhinllin Qing (1644–1911). Ceir llyfr o'r 14eg ganrif sy'n disgrifio'r ddyfais matchlock yn Tseina.[1]
Roedd Ymerodraeth yr Otomaniaid hefyd yn flaenllaw gyda'r ddyfais newydd a hyfforddwyd mysgedwyr di-ri i'w defnyddio ganddynt yn yr 1440au, yn enwedig gan y corfflu Jannisari. Roeddent wedi ymestyn eu tiriogaeth o Dwrci i Arabia a defnyddiwyd y mysgedwyr ganddynt pan wnaethon nhw orchfygu Caergystennin (Istanbwl heddiw). Dyma'r cyfnod pan y defnyddiwyd y canon (neu "Fombard Mawr Twrci" fel y'i galwyd) am y tro cyntaf i chwalu muriau caerau a chestyll.
Gyda Ffrainc y cysylltir y gair fel arfer, a gair Ffrengig ydoedd yn wreiddiol. Ffurfiwyd "Mysgedwyr y Gard" yn 1622 gan Louis XIII pan gyflwynodd y gwn i gwmni o gafalri ysgafn.
Y Reiffl
"Y Cotiau Cochio" oedd y llysenw ar fysgedwyr Prydeinig ac yng ngwledydd Prydain, defnydiwyd y mysgedwyr (a'u mysgedau "Brown Bess") am y tro diwethaf ym 1854 gyda'r reifflwyr (a'u Minié rifle) yn eu disodli. Roedd gan y reiffl hwn bellter dair gwaith hirach na'r mysged.[2] Arferai Byddin Imperialaidd yr Almaen ddefnyddio'r enw yma hyd at y Rhyfel Mawr.
Oriel
-
Mysgedwyr o Sweden (1624-1650) gyda mysgedi a bardiche (bwyelli hirion)
-
Mysgedwyr y 18fed ganrif o Świdnica, Gwlad Pwyl, (llun modern)