Euddogwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Sant neu esgob Cymreig oedd '''Euddogwy''', Lladin: '''Oudoceus''' (blodeuai tua diwedd y 6ed ganrif). Ceir buchedd iddo, y ''Vita Beati Oudocei'', yn Llyfr Llandaf, lle...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llyfr
Llinell 4: Llinell 4:

Barn [[G.H. Doble]] oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn [[Llandaf]] yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys [[Llandogo]] yng [[Gwent|Ngwent]], ac os felly niid oes unrhyw eglwys wedi ei chysegru iddo.

==Llyfryddiaeth==

*G. H. Doble. (1971). ''Lives of the Welsh Saints'', gol. D. Simon Evans.

[[Categori:Seintiau Cymru]]
[[Categori:Seintiau Cymru]]

Fersiwn yn ôl 06:32, 23 Awst 2007

Sant neu esgob Cymreig oedd Euddogwy, Lladin: Oudoceus (blodeuai tua diwedd y 6ed ganrif).

Ceir buchedd iddo, y Vita Beati Oudocei, yn Llyfr Llandaf, lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o Lydaw, ac Anauued, chwaer sant Teilo. Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafaiaeth Archesgob Caergaint a mynd ar bererindod i Rufain. Ei wylmabsant yw 2 Gorffennaf.

Barn G.H. Doble oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn Llandaf yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys Llandogo yng Ngwent, ac os felly niid oes unrhyw eglwys wedi ei chysegru iddo.

Llyfryddiaeth

  • G. H. Doble. (1971). Lives of the Welsh Saints, gol. D. Simon Evans.