Chalcolithig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: {{Cyfnodau cynhanes}} Mae cyfnod y '''Chalcolithig''' (Groeg: ''khalkos'' + ''lithos'' 'carreg gopr') neu '''Oes y Copr''' (a elwir hefyd yn '''Eneolithig''' ('''Aeneoli...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:48, 17 Awst 2007

Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Rhaghanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Mae cyfnod y Chalcolithig (Groeg: khalkos + lithos 'carreg gopr') neu Oes y Copr (a elwir hefyd yn Eneolithig (Aeneolithig)), yn gam yn natblygiad diwylliant y ddynolryw a welodd ymddangosiad graddol yr offer metel cyntaf a ddefnyddid ochr yn ochr ag offer carreg. Mae'r term(au) a'i ddefnydd gan archaeolegwyr yn amrywio'n fawr.

Yn draddodiadol mae llenyddiaeth archaeoleg Ewropeaidd yn osgoi defnyddio'r term 'chalcolithig' (gan ddefnyddio'r term 'Oes y Copr'), tra bod archaeolegwyr yn y Dwyrain Canol ar y llaw arall yn ei ddenfyddio'n rheolaidd. Y rheswm am hynny yw bod y chalcolithig wedi dechrau'n gynharach o lawer yr ardal honno, tra bod y newid o'r cyfnod chalcolithig byr yn Ewrop i Oes yr Efydd yn llawer mwy sydyn.

Mae'r cyfnod yn un o drawsnewid rhwng y Neolithig ac Oes yr Efydd sy'n gorwedd tu allan i'r hen system tair oes ar gyfer Cynhanes. Ymddengys fod pobl yn araf i ddefnyddio copr, a'i bod wedi cael ei chymysgu gyda thun a metelau eraill yn gynnar iawn, ffaith sy'n gwneud hi'n anodd i wahaniaethu rhwng gwahanol diwylliannau Chalcolithig a'u dosbarthu'n drefnus.

Y canlyniad yw bod y term yn tueddu i gael ei ddefnyddio mewn rhai lleoedd yn unig, yn bennaf yn ne-ddwyrain Ewrop a gorllewin a chanolbarth Asia (tua'r 4ydd milenniwm CC ymlaen). Fe'i denfyddir weithiau i ddisgrifio rhai o wareiddiaid yr Amerig cyn dyfodiad yr Ewropeiaid.

O 4300 i 3200 CC yn y cyfnod Chalcolithig, mae Gwareiddiad Dyffryn Indus Valley yn dangos cyfatebiaethau ceramig gyda diwylliannau cynnar de Turkmenistan a gogledd Iran, sy'n awgrymu teithio a masnachu ar raddau sylweddol.[1]

Cyfeiriadau

  1. Parpola, Asko: "Study of the Indus Script", page 2, 3. May 2005