Steffan (sant): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Ham II y dudalen Sant Steffan i Steffan (sant): dilyn arddull Meiriadog (sant), Siôr (sant) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:57, 26 Mehefin 2015
- Erthygl am y sant yw hon. Am yr ardal yn Llundain, gweler San Steffan
Steffan (o'r Groeg Στέφανος, Stephanos, yn golygu "coron") oedd y merthyr Cristnogol cyntaf, a fu farw tua 36 OC. Dethlir Gŵyl San Steffan ar y 26eg o Ragfyr.
Adroddir ei hanes yn Actau yr Apostolion. Un o'r saith dyn a cafodd eu penodi'n ddiaconiaid gan yr Apostolion oedd Steffan. Cafodd ei feirniadau gan y Sanhedrin yn euog o gabledd yn erbyn Moses a Duw, ac fe'i arweiniwyd tu allan i furiau'r ddinas i gael ei labyddio (lladd gyda cherrig). Ymhlith y rheiny a wyliodd y dienyddiad oedd Saul, yn hwyrach yr Apostol Paul. Yn ôl traddodiad mae ei greiriau yn eglwys San Lorenzo fuori le Mura yn Rhufain, lle y mae'n rhannu bedd gyda'r diacon Lawrens.