Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ifor Rees (awdur)"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 22 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
Awdurdod
(Awdurdod)
Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd '''Ifor Rees'''' (1 Mawrth 1921 - 27 Chwefror 2004).<ref>[http://www.tafelai.com/blw2004/TAFOD186g.pdf Taf Elai; Ebrill 2004]</ref> Fe'i ganwyd yn 1921 yn [[Glasgow]] lle roedd ei dad yn gweithio fel [[saer]] ym mhorthladdoedd y ddinas yn ystod [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Dychwelodd ei deulu i [[Mynydd-bach|Fynydd-bach]], [[Abertawe]] pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn [[Tirdeunaw|Ysgol Tirdeunaw]], ac yna [[Ysgol Ramadeg Abertawe]] a [[Coleg y Brifysgol Abertawe|Choleg y Brifysgol Abertawe]] lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, aeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]].
 
Ymunodd â’r BBC ym 1957 ym [[Bangor|Mangor]] fel cynhyrchydd radio cyn cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni am wledydd eraill lle bu’n arloesi yn y maes. Ar ôl gadael y BBC ym 1981, ffurfiodd gwmni cynhyrchu annibynnol ‘Ffilmiau’r Garth’ gyda’i wraig, Joan, gan adrodd hanesion nifer o wledydd gan gynnwys [[Groeg]], [[Twrci]], [[Denmarc]] a [[Dwyrain yr Almaen]]. Bu hefyd yn olrhain hanes O. M. Edwards mewn rhaglen a ffilmiwyd ar ynys Cyprus.
 
Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Ffurfiodd ddeuawd ysgafn gyda'i gyfaill Dafydd Evans. Ef oedd cyfansoddwr ac awdur y gân ‘Dros y Mynydd Du o Frynaman’.
[[Categori:Pobl o Glasgow]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 20fed ganrif]]
 
{{Authority control}}
450,625

golygiad

Llywio