Gruffudd ap Cynan ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Awdurdod |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
[[Categori:Marwolaethau 1200]] |
[[Categori:Marwolaethau 1200]] |
||
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]] |
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 02:41, 8 Tachwedd 2014
Gruffudd ap Cynan ab Owain neu Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1200), oedd arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Maredudd ap Cynan ab Owain). Roedd yn fab i'r tywysog Cynan ab Owain Gwynedd.
Yn 1175 llwyddodd y ddau frawd i adennill eu tiriogaeth deuluol, sef cyfran eu tad, Cynan, ar ôl gorchfygu eu hewythr Dafydd ab Owain Gwynedd wedi marwolaeth eu tad yn 1174.
Yn y 1170au gwrthsafasant ymosodiadau ar eu tir gan yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Ymladdodd y ddau yn erbyn Rhodri ab Owain Gwynedd yn y 1190au cynnar ac erbyn 1194 roeddent yn gynghreiriaid i Lywelyn ab Iorwerth pan drechodd Dafydd ab Owain Gwynedd ym Mrwydr Aberconwy.
Bu farw Gruffudd ap Cynan yn Abaty Aberconwy yn y flwyddyn 1200, yn ôl cofnod ym Mrut y Tywysogion, efallai ar ôl cymryd abid mynach (awgrym arall yw iddo gael ei orfodi i ymddeol yno oherwydd ei gweryla â Llywelyn Fawr). Canodd y bardd Gruffudd ap Gwrgenau ei farwnad.