Lang Lewys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Awdurdod
Llinell 2: Llinell 2:

==Bywgraffiad==
==Bywgraffiad==
Yn ôl tystiolaeth Iorwerth Fynglwyd, a gai gryn hwyl am ei ben wrth ei ddychanu, roedd gan Lang wraig o'r enw Lliwelydd. Roedd ganddo enw am fod yn glerwr llawen ac er bod Iorwerth, fel bardd proffesiynol trwyddedig, yn ei ddychanu mae'n amlwg ei fod yn adnabyddus i feirdd proffesiynol eraill Morgannwg ac yn well bardd na'r rhan fwyaf o'i ddosbarth.<ref>G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 59.</ref>
Yn ôl tystiolaeth Iorwerth Fynglwyd, a gai gryn hwyl am ei ben wrth ei ddychanu, roedd gan Lang wraig o'r enw Lliwelydd. Roedd ganddo enw am fod yn glerwr llawen ac er bod Iorwerth, fel bardd proffesiynol trwyddedig, yn ei ddychanu mae'n amlwg ei fod yn adnabyddus i feirdd proffesiynol eraill Morgannwg ac yn well bardd na'r rhan fwyaf o'i ddosbarth.<ref name="J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg 1948">G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 59.</ref>

[[Cywydd]]au ymryson yw'r unig rai o gerddi Lang sydd ar gael heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud â chael nawdd ym mhlasdy Syr Wiliam Mathau yn [[Radur]] ac yn nhŷ Siôn ab Ieuan, trysorwr [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]], swydd a sefydliad gyda thraddodiad hir o noddi'r beirdd. Ar sail hyn gellir derbyn mai gŵr o gyffiniau [[Caerdydd]] oedd Lang. Dywedir ei fod yn [[clera]] ar hyd y 'pyrtwai', sef y ffordd fawr a redai ar draws Morgannwg.<ref name="Williams_t60">G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 60.</ref>

Canodd y bardd [[Siôn ap Hywel Gwyn]] gywydd dychan i Lang.<ref>G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 59.</ref>
Canodd y bardd [[Siôn ap Hywel Gwyn]] gywydd dychan i Lang.<ref name="J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg 1948"/>

Ymddengys i Lang ennill enw iddo'i hun fel ymrysonwr a dychanwr y tu allan i Forgannwg ac mae'n bosibl ei fod wedi crwydro mor bell â'r Gogledd hefyd. Dyma enghraifft o'i ddawn ddychanol, wrth iddo ddisgrifio clerwr eglwysig tew, anwybodus o'r enw 'Syr' Gruffudd Fychan, un o'r rhai a grwydrai'r priffyrdd i ganu cerddi moesol a phregethu:

Llinell 32: Llinell 32:
[[Categori:Marwolaethau'r 1520au]]
[[Categori:Marwolaethau'r 1520au]]
[[Categori:Pobl o Forgannwg]]
[[Categori:Pobl o Forgannwg]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 22:56, 7 Tachwedd 2014

Bardd Cymraeg o Forgannwg oedd Lang Lewys (bl. tua 1480–1520), y cyfeirir ato hefyd fel "Lewys Hir" gan ei gyfoeswr Iorwerth Fynglwyd. Un o'r Glêr oedd Lang Lewys, sef y dosbarth o feirdd 'answyddogol' a grwydrai Gymru yn yr Oesoedd Canol.

Bywgraffiad

Yn ôl tystiolaeth Iorwerth Fynglwyd, a gai gryn hwyl am ei ben wrth ei ddychanu, roedd gan Lang wraig o'r enw Lliwelydd. Roedd ganddo enw am fod yn glerwr llawen ac er bod Iorwerth, fel bardd proffesiynol trwyddedig, yn ei ddychanu mae'n amlwg ei fod yn adnabyddus i feirdd proffesiynol eraill Morgannwg ac yn well bardd na'r rhan fwyaf o'i ddosbarth.[1]

Cywyddau ymryson yw'r unig rai o gerddi Lang sydd ar gael heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud â chael nawdd ym mhlasdy Syr Wiliam Mathau yn Radur ac yn nhŷ Siôn ab Ieuan, trysorwr Eglwys Gadeiriol Llandaf, swydd a sefydliad gyda thraddodiad hir o noddi'r beirdd. Ar sail hyn gellir derbyn mai gŵr o gyffiniau Caerdydd oedd Lang. Dywedir ei fod yn clera ar hyd y 'pyrtwai', sef y ffordd fawr a redai ar draws Morgannwg.[2]

Canodd y bardd Siôn ap Hywel Gwyn gywydd dychan i Lang.[1]

Ymddengys i Lang ennill enw iddo'i hun fel ymrysonwr a dychanwr y tu allan i Forgannwg ac mae'n bosibl ei fod wedi crwydro mor bell â'r Gogledd hefyd. Dyma enghraifft o'i ddawn ddychanol, wrth iddo ddisgrifio clerwr eglwysig tew, anwybodus o'r enw 'Syr' Gruffudd Fychan, un o'r rhai a grwydrai'r priffyrdd i ganu cerddi moesol a phregethu:

Mal llyffan y cân mewn côr,
Mal ŵyll yn ymyl allor;
Baril ydyw, byr Ladin,
Rhuglwr blawd o rigler blin;
Offeiriad blin a phryd blaidd,
A phrydydd anffeiriadaidd;
Difelys mae'n dyfalu
Gan dant, a difoliant fu.[2]

Ni wyddys pryd y bu Lang farw, ond ni cheir tystiolaeth amdano y gellir ei dyddio i'r cyfnod ar ôl tua 1520.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 59.
  2. 2.0 2.1 G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 60.