Lang Lewys
Lang Lewys | |
---|---|
Ganwyd | 15 g |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd Cymraeg o Forgannwg oedd Lang Lewys (bl. tua 1480–1520), y cyfeirir ato hefyd fel "Lewys Hir" gan ei gyfoeswr Iorwerth Fynglwyd. Un o'r Glêr oedd Lang Lewys, sef y dosbarth o feirdd 'answyddogol' a grwydrai Gymru yn yr Oesoedd Canol.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Yn ôl tystiolaeth Iorwerth Fynglwyd, a gai gryn hwyl am ei ben wrth ei ddychanu, roedd gan Lang wraig o'r enw Lliwelydd. Roedd ganddo enw am fod yn glerwr llawen ac er bod Iorwerth, fel bardd proffesiynol trwyddedig, yn ei ddychanu mae'n amlwg ei fod yn adnabyddus i feirdd proffesiynol eraill Morgannwg ac yn well bardd na'r rhan fwyaf o'i ddosbarth.[1]
Cywyddau ymryson yw'r unig rai o gerddi Lang sydd ar gael heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud â chael nawdd ym mhlasdy Syr Wiliam Mathau yn Radur ac yn nhŷ Siôn ab Ieuan, trysorwr Eglwys Gadeiriol Llandaf, swydd a sefydliad gyda thraddodiad hir o noddi'r beirdd. Ar sail hyn gellir derbyn mai gŵr o gyffiniau Caerdydd oedd Lang. Dywedir ei fod yn clera ar hyd y 'pyrtwai', sef y ffordd fawr a redai ar draws Morgannwg.[2]
Canodd y bardd Siôn ap Hywel Gwyn gywydd dychan i Lang.[1]
Ymddengys i Lang ennill enw iddo'i hun fel ymrysonwr a dychanwr y tu allan i Forgannwg ac mae'n bosibl ei fod wedi crwydro mor bell â'r Gogledd hefyd. Dyma enghraifft o'i ddawn ddychanol, wrth iddo ddisgrifio clerwr eglwysig tew, anwybodus o'r enw 'Syr' Gruffudd Fychan, un o'r rhai a grwydrai'r priffyrdd i ganu cerddi moesol a phregethu:
Mal llyffan y cân mewn côr,
Mal ŵyll yn ymyl allor;
Baril ydyw, byr Ladin,
Rhuglwr blawd o rigler blin;
Offeiriad blin a phryd blaidd,
A phrydydd anffeiriadaidd;
Difelys mae'n dyfalu
Gan dant, a difoliant fu.[2]
Ni wyddys pryd y bu Lang farw, ond ni cheir tystiolaeth amdano y gellir ei dyddio i'r cyfnod ar ôl tua 1520.